Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn cyhoeddi mynediad i gasgliad newydd sbon o bron i 400 o e-Lyfrau poblogaidd wedi'u curadu'n arbennig. Mae’r casgliad yn amrywio o ddeunydd meddygol, addysgol, adeiladu gyrfa a chyfeirio, gan ddarparu hyd yn oed mwy o offer tystiolaeth wrth ddefnyddio gwasanaethau llyfrgell.
Gellir cael mynediad i'r adnoddau newydd hyn yn unrhyw le o ddyfeisiau a ffefrir, yn debyg iawn i'r holl offer a deunydd e-Lyfrgell arall gan ddefnyddio eich manylion mewngofnodi i’r e-Lyfrgell.
Mae cynnwys y casgliad newydd hwn, a ychwanegwyd at stoc e-Lyfrau presennol yr e-Lyfrgell, wedi'i ddewis a'i gaffael drwy gydweithio â llyfrgellwyr ar draws GIG Cymru ynghyd â Llywodraeth Cymru. Caiff ei ddarparu drwy EBSCO Information Services a Browns Books, prif gyflenwr llyfrau ac e-Lyfrau'r DU ar gyfer ysgolion a llyfrgelloedd.
"Rydym yn falch o ychwanegu'r casgliad newydd hwn, a fydd yn ategu'r adnoddau printiedig sydd ar gael yn ein llyfrgelloedd iechyd, yn gwella ein darpariaeth o e-adnoddau ac yn agor mynediad i ddefnyddwyr, lle bynnag y maent wedi'u lleoli," meddai Nia Jenkins, Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell yn Ysbyty Glan Clwyd.
Mae mynediad at lyfrau digidol yn parhau i dyfu, gan ategu adnoddau presennol a gwella arferion darllen ac ymchwil ochr yn ochr â deunyddiau printiedig, gan greu dull cyfannol newydd sbon o ymdrin ag anghenion sy'n ceisio tystiolaeth.
Trwy’r e-Lyfrgell ceir mynediad cenedlaethol i filoedd o adnoddau tystiolaeth digidol, testun llawn, dibynadwy a chyfredol. Mae'r e-Lyfrgell ar gael i holl weithwyr GIG Cymru, y rhai a gomisiynwyd i ddarparu gwasanaethau GIG Cymru, myfyrwyr ar leoliad, a llawer mwy.
I gael rhagor o wybodaeth am e-Lyfrgell GIG Cymru, ewch i'w gwefan yn: elh.nhs.wales