20 Mehefin 2023
Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn darparu ystod gynhwysfawr o e-Adnoddau ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol megis crynodebau tystiolaeth, canllawiau ac e-ddysgu.
Mae'r e-Adnoddau yn cefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddefnyddio tystiolaeth a chanllawiau arferion gorau, ac i barhau â'u datblygiad gyrfa a sgiliau proffesiynol
Er mwyn sicrhau bod yr e-Adnoddau yn cael eu gwerthuso a'u datblygu'n barhaus, mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn chwilio am adborth gan ddefnyddwyr yr e-Lyfrgell. Mae tri arolwg wedi'u creu i gasglu adborth hanfodol am werth, effaith a defnyddioldeb e-adnoddau cenedlaethol penodol mewn meysydd allweddol.
Bydd llenwi arolwg yn helpu i sicrhau a llywio’r adolygiad ar gyfer caffael y gwahanol gynhyrchion a phlatfformau. Er mwyn sicrhau bod e-adnoddau'n cael eu gwerthuso a'u datblygu'n barhaus bydd yr arolygon yn casglu adborth ynghylch y defnydd a'r effaith y mae'r e-adnoddau yn ei chael ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y gwaith.
Dywedodd Gwasanaethau Gwybodaeth, Llyfrgell ac Archifau Llywodraeth Cymru:
“Rydym yn defnyddio tystiolaeth ansawdd uchel o adnoddau e-Lyfrgell yn rheolaidd i gefnogi datblygiad, gweithrediad ac adolygiad polisi Llywodraeth Cymru. Rydym hefyd yn elwa ar y gronfa o arbenigedd a rhwydweithiau a rennir o fewn yr e-Lyfrgell ac yn gwerthfawrogi cyfleoedd i gefnogi a chyfrannu lle y gallwn.”
Bydd y data a gesglir yn ddienw, ac yn cael ei adolygu ar y cyd â data arall, megis data defnydd, fel rhan o’r broses werthuso barhaus.
Dywedodd Hyrwyddwr E-lyfrgell yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, Claire Morgan:
“Byddem yn gwerthfawrogi adborth ar yr adnoddau hyn yn fawr. Mae cwblhau’r arolygon, hyd yn oed i ddweud nad ydych yn eu defnyddio, yn helpu i roi mwy o wybodaeth i ni am ofynion yr e-lyfrgell.”
I gael rhagor o wybodaeth, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â elibrary@wales.nhs.uk.