11 Mai 2023
Mae DHCW wedi llwyddo i ennill gwobr ‘Safon Aur’ mewn Gwiriad Statws Uwch yn y Safon Iechyd Corfforaethol. Dyfernir y wobr i gyflogwyr sy'n rhagori ym maes iechyd a llesiant yn y gweithle.
Dywedodd yr aseswyr, “Roedd yn amlwg iawn bod ethos a diwylliant llesiant DHCW yn rhagorol, yn flaengar ac yn gynhwysfawr ac wedi’i ddatblygu i fod yn gwbl strategol o ran ymagwedd. Mae’n amlwg bod llesiant wrth wraidd popeth y mae DHCW yn ei wneud.”
Dywedodd Sarah-Jane Taylor, Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol, “Rydym i gyd wedi ymrwymo i ddiwylliant sydd â’r nod o weld ein holl weithwyr yn ffynnu yn bersonol ac yn broffesiynol. Mae ein pobl wrth galon DHCW, ac rwyf wrth fy modd bod hyn wedi cael ei gydnabod drwy ennill gwobr safon aur y Safon Iechyd Corfforaethol.”
Mae gan DHCW fframwaith iechyd a llesiant tair blynedd yn ei le, ac mae amcanion llesiant wedi’u cynnwys yn ei IMTP (Cynllun tymor canolig integredig). Nododd aseswyr y gwobrau, “Mae’r seilwaith ar gyfer llesiant staff wedi’i hen sefydlu ac yn ddiweddar mae wedi’i gryfhau ymhellach drwy waith y rhwydwaith iechyd a llesiant, sy’n gweithredu fel hyrwyddwyr llesiant. Mae ethos llesiant wedi’i fodelu gan arweinwyr ar draws y sefydliad, gan gynnwys y Prif Weithredwr, sy'n atgoffa staff yn rheolaidd yn ei sesiynau briffio i ofalu am eu llesiant eu hunain a chefnogi eraill. Mae yna hefyd ddealltwriaeth gadarn o rôl rheolwyr llinell o ran y gwaith hyrwyddo a diogelu llesiant. Neilltuwyd adnoddau sylweddol i wella hyder a sgiliau rheolwyr llinell i arwain ym maes llesiant.”
Mae'r Safon Iechyd Gorfforaethol yn rhan o raglen 'Cymru Iach ar Waith' sy’n sicrhau ansawdd cenedlaethol ar gyfer iechyd a llesiant yn y gweithle.