Neidio i'r prif gynnwy

Dyfarnu Helen Thomas, o Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yn Brif Swyddog Gweithredol Digidol y Flwyddyn

8 Hydref 2021

Enillodd Helen Thomas, Prif Swyddog Gweithredol Iechyd a Gofal Digidol Cymru, ‘y wobr Prif Swyddog Gweithredol Digidol y Flwyddyn’ yn y Gwobrau ‘Digital Health’ 2021.

Mae’r wobr yn dathlu cyflawniadau arweinwyr sy’n gwneud y ‘cyfraniadau mwyaf at TG ym maes gofal iechyd y DU’

Dywedodd Jon Hoeksma, Prif Swyddog Gweithredol ‘Digital Health’: “Ni fu arweinyddiaeth bwrdd yn y maes digidol erioed yn bwysicach ar gyfer cyflawni trawsnewidiad digidol ar raddfa fawr, gan alluogi adferiad y GIG a sicrhau enillion digidol o’r pandemig.”

Dywedodd Helen ei bod wrth ei bodd yn ennill, “Rydw i wedi fy synnu’n llwyr ac yn hynod ddiolchgar” ychwanegodd, “Mae ymdrech y tîm a’r gefnogaeth gan fy nghydweithwyr wedi bod, ac yn parhau i fod, yn aruthrol ac ni allwn fod wedi gwneud hynny hebddyn nhw. Rydyn ni wedi bod trwy rai heriau go iawn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac mae'n anrhydedd i mi allu arwain tîm mor wych. Diolch."

Mae'r wobr yn gategori newydd eleni ac mae panel o feirniaid arbennig yn penderfynu ar bwy sy’n ei hennill.  I weld rhestr lawn o’r enillwyr, ewch i wefan ‘Digital Health’.