Mae’r rhaglen Adnodd Data Cenedlaethol (NDR) yn falch o gyhoeddi y bydd digwyddiad Diweddariad i Randdeiliaid yn cael ei gynnal ddydd Iau, 24 Hydref am 2-3.30pm. Bydd y digwyddiad chwarterol hwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf ar waith yr NDR i’r mynychwyr ac yn cynnwys sbotolau ar un o bartneriaid allweddol y rhaglen.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau ar brosiectau a mentrau diweddaraf yr NDR, gan gynnwys diweddariadau ar yr Ystorfa Data Gofal (CDR), y Platfform Data a Dadansoddeg Cenedlaethol (NDAP) a’r Rhaglen Ddysgu Dadansoddeg (ALP) ar ei newydd wedd. Bydd y mynychwyr hefyd yn cael cyfle i ddysgu am y gwaith a sut mae partneriaid NDR, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Gweithrediaeth GIG Cymru, yn defnyddio’r platfform NDR i weithio’n effeithiol, yn effeithlon ac yn ddiogel gyda’i gilydd.
Bydd y rhaglen NDR yn darparu platfform diogel i alluogi defnyddwyr awdurdodedig i gyrchu a dadansoddi cyfoeth o ddata iechyd a gofal dienw. Nod NDR yw datgloi pŵer y data hwn i wella gofal cleifion, llywio darpariaeth gwasanaethau, a chefnogi ymchwil ac arloesi ar draws y systemau iechyd a gofal cymdeithasol. Drwy feithrin cydweithredu a gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata, mae’r NDR yn cefnogi Cymru Iachach Llywodraeth Cymru, a dyfodol iachach i bawb yng Nghymru.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein, gan ei gwneud yn hawdd i randdeiliaid o bob rhan o Gymru fod yn bresennol. Mae cofrestru bellach ar agor, ac rydym yn annog pob un o randdeiliaid NDR i gofrestru heddiw. Mae’r gwahoddiad hwn yn agored i weithwyr proffesiynol ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, awdurdodau lleol, y byd academaidd, y Senedd a Llywodraeth Cymru.
Manylion y digwyddiad:
I grynhoi ein digwyddiad ar 25 Gorffennaf, buom yn trafod y canlynol:
Rydym yn eich annog i gofrestru ar gyfer y digwyddiad ar 24 Hydref i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau’r NDR.
Cofrestru ar gyfer y Diweddariad i Randdeiliaid NDR ar 24 Hydref 2024
Gwylio’r Diweddariad i Randdeiliaid NDR diwethaf ym mis Gorffennaf ar YouTube
Cofrestru ar gyfer cylchlythyr NDR