29 Mawrth 2022
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cynnal pedwar digwyddiad ymgysylltu nyrsio digidol llwyddiannus yn adrodd hanes Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR).
Trefnwyd y digwyddiadau i ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid i arddangos y swmp enfawr o waith a gyflawnwyd hyd yn hyn, ynghyd â datblygiadau a mewnwelediadau technegol yn y dyfodol i ddyluniad y system. Daeth nifer dda i’r digwyddiadau a chafwyd trafodaeth gyfoethog yn y sesiynau Holi ac Ateb byw a chyfraniad gan staff GIG Cymru o nifer o fyrddau iechyd ledled y wlad.
Roedd y digwyddiad cyntaf yn gyflwyniad i WNCR wedi'i gyfeirio at fyfyrwyr nyrsio a phrifysgolion GIG Cymru. Ffocws yr ail ddigwyddiad oedd uwch swyddogion gweithredol byrddau iechyd. Cwblhawyd y gyfres â sesiwn am ddatblygiad technegol ac arloesi a safoni dogfennaeth nyrsio.
Dywedodd Claire Bevan, siaradwr ac Uwch Berchennog Cyfrifol y prosiect: “Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o bobl ledled Cymru yn mynychu o blith myfyrwyr nyrsio, datblygwyr technegol, Prif Swyddogion Gweithredol a mwy. Rydym mor falch o’r cynnydd hyd yn hyn ac wrth ein boddau gyda’r cydweithio rhwng cynifer o fyrddau iechyd ar draws GIG Cymru i gynnal y digwyddiadau hyn a WNCR. Diolch i bawb a gefnogodd ac a ddaeth i’r digwyddiadau.”
Gallwch wylio'r pedwar digwyddiad nyrsio ar ein sianel Youtube trwy ddilyn y dolenni isod: