10 Tachwedd 2022
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) wedi’i gydnabod fel y lle gorau i weithio i weithwyr TG proffesiynol yn y DU.
Cyhoeddwyd yr anrhydedd gan Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain yn ei Gwobrau Diwydiant TG y DU mawreddog blynyddol.
Yn sefydliad GIG Cymru sy’n arwain ar drawsnewid digidol, cafodd DHCW ei anrhydeddu am ddarparu’r cyfleoedd cyflogaeth a gyrfa gorau i weithwyr TG proffesiynol yn y DU. Rhoddodd y beirniaid farciau uchel i’w ymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn ogystal â sgiliau a datblygiad gyrfa ar gyfer staff.
Dan arweiniad Helen Thomas, y Prif Swyddog Gweithredol, mae DHCW yn cyflogi dros 1000 o bobl mewn swyddfeydd yng Nghaerdydd, Pencoed, Pont-y-pŵl, Abertawe a’r Wyddgrug, ac mae ganddo gyfradd cadw staff ardderchog, sy’n llawer uwch na safon y diwydiant. Dros y 18 mis diwethaf, cafodd 20% o staff eu dyrchafu.
"Rydym yn falch iawn o dderbyn y wobr hon," meddai Helen Thomas. “Mae’n gyflawniad gwych i bob un ohonom ac yn dangos bod adeiladu tîm gwych yn dod â llwyddiant i staff ac i’n rhanddeiliaid. Rydym yn falch iawn o’r gwaith rydym yn ei wneud i helpu GIG Cymru i ddefnyddio y maes digidol i ddarparu gofal gwell.”
Meddai Sarah-Jane Taylor, Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol: “Mae hwn yn gyflawniad aruthrol sy’n gwobrwyo ein buddsoddiad mewn pobl. Rydym yn rhoi ffocws gwirioneddol ar werthfawrogi gwaith ein staff, sef ein hased mwyaf. Mae eu gwaith yn hollbwysig, sef datblygu a darparu’r gwasanaethau technoleg a data cenedlaethol sydd eu hangen i drawsnewid iechyd a gofal yng Nghymru.”
Gyda channoedd o geisiadau ar gyfer Gwobrau Diwydiant TG y DU Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain, bu DHCW yn fuddugol yn y categori Lle Gorau i Weithio ym Maes TG, gan gystadlu yn erbyn naw a gyrhaeddodd y rownd derfynol gan gynnwys Intercity Technology a Phartneriaeth John Lewis.
Dywedodd Jamie Graham, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Seiberddiogelwch: “Ymunais i â DHCW ar ôl gyrfa yn y gatrawd barasiwt ac rwyf wedi darganfod bod DHCW yn gwneud llawer i ddatblygu ei reolwyr a’i arweinwyr, sydd wedi rhoi cyfleoedd i mi ddatblygu i gyfeiriadau newydd a chefnogi dysgu parhaus.”