1af Awst 2023
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) wedi croesawu cyhoeddi Strategaeth Digidol a Data ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar ei newydd wedd.
Mae’r strategaeth wedi’i diweddaru yn darparu cyfeiriad cenedlaethol ar gyfer digidol a data i wella profiad staff a defnyddwyr iechyd a gofal cymdeithasol, yn mynd i’r afael â heriau strategol allweddol sy’n wynebu’r sectorau ac yn helpu pobl i fyw bywydau hapusach, iachach a hirach.
Mae’n rhoi ffocws ar wasanaethau digidol a data cynhwysol sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a sut y gall defnyddio technolegau newydd arloesol rymuso pobl i reoli eu hiechyd eu hunain ac atal salwch.
Dywedodd Ifan Evans, Cyfarwyddwr Strategaeth Ddigidol DHCW:
“Fel y sefydliad arweiniol sy’n darparu gwasanaethau digidol a data ar gyfer GIG Cymru, rydym yn croesawu’r strategaeth hon ar ei newydd wedd, sy’n rhoi pobl wrth wraidd yr hyn a wnawn. Mae’r cyfleoedd a ddaw yn sgil gwasanaethau digidol a data o ansawdd uchel yn enfawr – bydd technoleg yn cefnogi pobl i fyw bywydau iachach ac yn helpu ein cydweithwyr yn y GIG a gofal cymdeithasol i fynd i’r afael â’r heriau gwirioneddol anodd y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd.
Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a’n partneriaid allweddol i gyflawni’r blaenoriaethau a’r uchelgeisiau a amlinellir yn y strategaeth, a gweld yr effeithiau cadarnhaol a ddaw yn eu sgil.”
Mae’r strategaeth ar ei newydd wedd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru Strategaeth Digidol a Data ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru