27fed Gorffenaf 2023
Mae Dewis fferyllfa – sef system cofnodion digidol GIG Cymru a ddefnyddir gan fferyllwyr – yn dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed yr haf hwn. Dechreuodd y system yn 2013 fel platfform i alluogi fferyllwyr cymunedol i gofnodi ymgynghoriadau, rhannu gwybodaeth, darparu triniaeth ar gyfer amrywiol anhwylderau cyffredin a chynhyrchu hawliadau am daliad.
Mae platfform Dewis Fferyllfa wedi esblygu o’i ddiben gwreiddiol o gynnal y gwasanaeth anhwylderau cyffredin i alluogi adolygiad o feddyginiaethau digidol, brechiadau ffliw tymhorol (o 2016), cyflenwi meddyginiaethau brys a darparu dulliau atal cenhedlu brys a phontio. A thros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth gefnogi’r gwasanaeth profi a thrin dolur gwddf a’r gwasanaeth presgripsiynwyr annibynnol cenedlaethol
Fe’i sefydlwyd gyda chefnogaeth Andrew Evans, Prif Swyddog Fferyllol Cymru a ddywedodd fod y gwasanaeth wedi mynd ymhell y tu hwnt i’r hyn a ragwelwyd ar y dechrau,
“Mae Dewis Fferyllfa wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol enfawr i ddarparu gofal iechyd yng Nghymru. Mae wedi galluogi fferyllwyr i ddarparu ystod gynyddol o wasanaethau clinigol i’w cleifion, yn ddiogel ac yn brydlon. Mae’r platfform yno i’w cefnogi drwy ddarparu mynediad at gofnodion meddygol a ffordd o rannu eu cyfraniad at ofal gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Mae cleifion wedi elwa ar dderbyn gofal rhagorol gan eu fferyllydd heb orfod dibynnu ar wasanaethau gofal iechyd eraill, a all fod yn ddiangen neu’n llai hygyrch.”
Mae dros 500,000 o ymgynghoriadau Dewis Fferyllfa yn cael eu cynnal bob blwyddyn, ac mae nifer y brechiadau ffliw tymhorol a weinyddir drwy’r system wedi cynyddu o 10,000 ym mis Hydref 2017 i bron i 90,000 fis Hydref diwethaf.
Dywedodd Dan Hallett, presgripsiynydd mewn fferyllfa annibynnol yng Nghaerdydd ac arweinydd clinigol rhan-amser gyda Iechyd a Gofal Digidol Cymru fod Dewis Fferyllfa yn wasanaeth arloesol sy’n torri tir newydd,
“Y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin bellach yw conglfaen y contract fferylliaeth. Mae’r platfform wedi galluogi i mi gael mynediad at ystod o wybodaeth sy'n helpu fy mhenderfyniadau clinigol. Felly, er enghraifft, gallaf weld crynodeb o gofnodion meddyg teulu’r claf trwy Gofnod Meddyg Teulu Cymru (WGPR) ym mhob modiwl perthnasol.
“Gallaf gael llythyr cyngor rhyddhau electronig sy'n fy ngalluogi i neu fy nhechnegydd i ddarparu’r adolygiad o feddyginiaethau rhyddhau sy’n cynnwys manylion meddyginiaeth y claf pan gaiff ei ryddhau o’r ysbyty - fel y gallwn sicrhau nad oes unrhyw broblemau parhaus neu faterion o ran eu meddyginiaeth. Mae Dewis Fferyllfa yn helpu’r timau fferylliaeth gymunedol i ddangos bod ein proffesiwn yn llawer mwy na dim ond glynu label ar focs.”
Mae Dewis Fferyllfa wedi datblygu’n barhaus dros y deng mlynedd diwethaf ac mae tîm DHCW bellach yn cyflawni darn o waith gyda’r defnyddwyr i ddeall sut mae angen i’r platfform ddatblygu i gwrdd ag anghenion timau fferylliaeth gymunedol, y cleifion a’r cyhoedd y maent yn eu gwasanaethu yn y dyfodol.
Dywedodd Ifan Evans, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth yn DHCW fod offerynnau digidol fel Dewis Fferyllfa yn galluogi newid i ddigwydd yn gyflymach,
“Mae Dewis Fferyllfa yn enghraifft dda iawn o roi offer digidol ymarferol a diriaethol yn nwylo gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, sy’n eu galluogi i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru. Llongyfarchiadau ar y gwaith gwych sydd wedi’i gyflawni hyd yn hyn yn ystod 10 mlynedd gyntaf Dewis Fferyllfa.”