Neidio i'r prif gynnwy

Deunyddiau canllaw newydd i gadw gwybodaeth cleifion yn ddiogel

9 Awst 2022

Mae deunyddiau canllaw newydd sy'n esbonio pam mae GIG Cymru yn casglu gwybodaeth am gleifion a sut y gellir defnyddio'r data hyn bellach ar gael ar wefan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW). 

Gellir gweld Eich Preifatrwydd, Eich Hawliau fel cynnwys ar-lein, neu ei lawrlwytho fel taflen ac fel poster. Mae'r deunyddiau'n helpu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am sut mae gwybodaeth yn cael ei chadw gan GIG Cymru a sut mae'n cael ei defnyddio. 

Mae gwybodaeth a gedwir gan GIG Cymru yn cael ei diogelu gan reolau data llym sy’n ymwneud â phreifatrwydd, cyfrinachedd a diogelwch ac fe’i cedwir yn unol â gofynion cyfreithiol a’r gyfraith. 

Mae'r deunyddiau newydd, sydd wedi'u cynllunio i ategu polisïau a hysbysiadau preifatrwydd lleol, yn adlewyrchu'r ddeddfwriaeth diogelu data ddiweddaraf a gall sefydliadau'r GIG eu teilwra i fodloni gofynion lleol. 

Mae Eich Preifatrwydd, Eich Hawliau yn disodli deunyddiau gwybodaeth blaenorol a elwir yn Eich Gwybodaeth, Eich Hawliau. Mae'r tîm Llywodraethu Gwybodaeth yn gofyn i staff nodi'r newid hwn a newid unrhyw gyfeiriadau presennol o “Eich Gwybodaeth, Eich Hawliau” i “Eich Preifatrwydd, Eich Hawliau”. 

Cysylltwch â’r tîm Llywodraethu Gwybodaeth os oes gennych unrhyw ymholiadau: DHCWInformationGovernance@wales.nhs.uk