Neidio i'r prif gynnwy

Dau o Weithredwyr IGDC yn rownd derfynol Digital Leaders 100

Medi 27ain, 2024

Mae Helen Thomas, Prif Weithredwr Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC), ac Ifan Evans, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth IGDC, wedi cyrraedd rownd derfynol categori Arweinydd Digidol y Flwyddyn yng Ngwobrau Digital Leaders 100 (DL100) 2024.

Mae’r rhestr DL100 yn dathlu’r bobl a’r timau sy’n arwain trawsnewid digidol ar draws y DU. Dewisodd panel o feirniaid ddeg o unigolion a gyrhaeddodd y rownd derfynol ar gyfer pob un o’r deg categori, gan ffurfio’r rhestr DL100. Bydd y beirniaid nawr yn dewis enillydd ar gyfer pob categori, tra gall y cyhoedd bleidleisio am eu ffefryn yng Ngwobr Dewis y Bobl.

Gallwch bleidleisio dros Helen Thomas neu Ifan Evans i ennill Gwobr Dewis y Bobl ar wefan Digital Leaders 100.

Mae enwebiad Helen yn amlygu ei hangerdd dros fod yn fodel rôl i staff, yn enwedig i fenywod. Mae hi’n Gymrawd Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain (BCS), sy’n cydnabod arweinwyr TG sy’n arloesi ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf. Mae Helen yn cefnogi staff i ennill cofrestriad proffesiynol ac aelodaeth trwy’r BCS a FEDIP (Ffederasiwn Gweithwyr Gwybodeg Proffesiynol). Mae hi hefyd yn ymgysylltu â myfyrwyr prifysgol ac yn ddiweddar arweiniodd sesiwn ar drawsnewid digidol ar gyfer Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, lle mae hi’n Athro Ymarfer.  

Ar ôl clywed ei bod yn y rownd derfynol, dywedodd Helen: “Mae’n anrhydedd cyrraedd y rownd derfynol ochr yn ochr ag Ifan Evans ar gyfer Arweinydd Digidol y Flwyddyn ar restr DL100 2024. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad yr holl dîm yn IGDC. Rwy’n arbennig o falch o hyrwyddo datblygiad arweinwyr y dyfodol a chefnogi ein staff yn eu twf proffesiynol. Rydym wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â thrawsnewid digidol er budd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a’n cymunedau ledled Cymru.”

Mae enwebiad Ifan yn cydnabod ei arweinyddiaeth wrth hyrwyddo trawsnewid digidol ar draws y system iechyd a gofal yng Nghymru. Mae Ifan yn defnyddio ei fewnwelediad academaidd a phroffesiynol i eiriol dros ddigidol fel galluogwr ac ysgogydd newid, a thros ddefnyddio data a gwybodaeth i wella ansawdd gwasanaethau iechyd a gofal.

Wedi cyrraedd y rhestr fer, dywedodd Ifan: “Mae’n fraint cael fy enwi yn rownd derfynol categori Arweinydd Digidol y Flwyddyn ar restr Digital Leaders 100 eleni. Mae’r enwebiad hwn yn adlewyrchu’r ymrwymiad parhaus i ddefnyddio offer digidol a data i wella gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru. Rwy’n frwd dros sicrhau bod trawsnewid digidol yn ysgogydd allweddol i newid cadarnhaol ar draws y sector, ac rwy’n falch o’r gwaith y mae ein timau’n parhau i’w wneud i wireddu’r weledigaeth hon.”

Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo ym Manceinion ar 17 Hydref 2024.