17 Mawrth 2022
Mae uwchraddio band eang Practisiau Meddygon Teulu yng Ngogledd Cymru, a reolir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru, wedi cael ei ddathlu gydag ymweliad â phractis anghysbell gan Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Ymwelodd yr AS â Meddygfa Caerffynnon yn Nolgellau a gweld â'i lygaid ei hun sut mae cyflwyno band eang ffeibr llawn cyflym iawn wedi gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol i wasanaethau'r practis.
Dywedodd Sarah Tibbetts, Rheolwr y Practis, na fyddai gweithgareddau fel ymgynghoriadau rhithwir wedi bod yn bosibl heb uwchraddio’r band eang. “Rydym mor wledig yma, a dweud y gwir nid wyf yn gwybod sut y byddem wedi ymdopi yn ystod y pandemig gan ein bod wedi dibynnu cymaint ar ein TG a gwasanaethau digidol.”
Dechreuodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) ar y gwaith o uwchraddio practisiau o gyflymder lawrlwytho o 10MB i 80-150MB ym mis Ionawr 2020, a phan darodd y pandemig daeth y gwaith yn fwy brys byth.
Erbyn mis Mawrth 2022, roedd 110 o bractisiau yng Ngogledd Cymru wedi'u huwchraddio. Cwblhawyd y gwaith heb unrhyw gost i’r practisiau diolch i gyllid DCMS Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae llawer o bractisiau ar draws gweddill Cymru hefyd wedi cael eu huwchraddio, a bwriedir cwblhau gwaith ar draws holl bractisiau meddygon teulu Cymru erbyn diwedd 2022.