5 Mehefin 2023
Wrth i’r GIG nodi ei ben-blwydd yn 75 oed, mae Helen Thomas, Prif Swyddog Gweithredol Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yn myfyrio ar y newidiadau dramatig yr ydym wedi’u gweld ym maes gofal iechyd ers sefydlu’r gwasanaeth iechyd.
Mae heddiw'n nodi achlysur arbennig wrth i'r GIG ddathlu ei ben-blwydd yn 75 oed. Mae creu ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol, wedi’i ysgogi gan weledigaeth Aneurin Bevan i ddarparu gofal iechyd i bawb – am ddim yn y pwynt mynediad, yn rhan bwysig o’n hanes. Ychydig iawn o bobl – os o gwbl – sydd bellach yn gweithio yn y GIG oedd wedi’u geni pan ddechreuodd a gall fod yn hawdd ei gymryd yn ganiataol. I lawer ohonom, mae'n rhywbeth sydd wedi bod yno erioed. Ond dyna pam ei bod mor bwysig nodi achlysuron fel heddiw a chydnabod pa mor bell rydyn ni wedi dod.
Yn bersonol, rwyf mor falch o fod yn gweithio i GIG Cymru. Mae fy ngyrfa yn y GIG wedi fy ngalluogi i weithio gyda rhai o’r bobl fwyaf penderfynol ac ysbrydoledig, y mae eu ffocws bob amser wedi bod ar roi pobl yn gyntaf. Mae’r GIG yn rhywbeth sy’n golygu llawer i mi.
Er bod heddiw yn ymwneud â dathlu, byddai’n esgeulus i beidio â chydnabod yr heriau sylweddol sy’n wynebu gwasanaethau iechyd ledled y DU ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn fwy cyffredin nag erioed yn dilyn y pandemig COVID-19, a heriodd bob un ohonom, yn enwedig y rhai sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal, mewn ffyrdd digynsail. Ond rwy'n wirioneddol gredu bod y GIG yn parhau i fod yn rhywbeth i'w gefnogi a'i drysori. Ni wn beth y byddem yn ei wneud hebddo.
Mae'r 75 mlynedd diwethaf wedi gweld cymaint o newid ar draws y gymdeithas gyfan. Byddai llawer o ffyrdd yr ydym yn awr yn byw ein bywydau o ddydd i ddydd wedi bod yn annealladwy ym 1948, pan oedd Prydain yn dal i ddod allan o effaith gymdeithasol ac economaidd yr Ail Ryfel Byd.
Un o’r newidiadau mwyaf fu datblygiad digidol ym mhob agwedd ar ein bywydau. Mae digidol bellach yn chwarae rhan mor arwyddocaol i ni i gyd, yn enwedig ers y pandemig.
Ym maes gofal iechyd rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol mewn triniaeth a gyflymwyd yn sylweddol gan gyflwyniad offer a chynhyrchion digidol. Ar ôl mynd o’r cyfrifiaduron mwyaf sylfaenol ychydig ddegawdau yn ôl, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) bellach yn cefnogi ein partneriaid GIG i ddisodli papur gyda nodiadau cleifion digidol, defnyddio datrysiadau digidol i gefnogi gofal ar gyfer cleifion canser, defnyddio cyfres o blatfformau digidol i alluogi clinigwyr i rannu a chael mynediad at wybodaeth allweddol am gleifion a diweddaru rhagnodi – a’r cyfan yn arwain at well gofal a gwasanaethau i gleifion.
Rydym hefyd yn helpu pobl i ddod yn fwy grymus o ran rheoli eu hiechyd a’u gofal drwy ddatblygu ap GIG Cymru, sy’n rhoi mynediad i bobl at wybodaeth a gwasanaethau allweddol drwy eu ffôn symudol. Ac rydym yn gwneud gwell defnydd o ddata i ddarparu mewnwelediad a gwella sut mae gwasanaethau'n cael eu darparu a'u cyrchu gan gleifion
Mae’n gyfnod mor gyffrous i wasanaethau iechyd digidol, gyda llawer iawn o waith yn digwydd a chymaint mwy yr ydym am ei wneud. Wrth i ni fyfyrio ar y 75 mlynedd diwethaf, pwy a ŵyr beth fydd yn digwydd yn y 75 mlynedd nesaf? Mae'r datblygiadau mewn digidol yn datblygu’n gyflymach nag erioed. Mae cymaint o gynnydd yn cael ei wneud ac mae cymaint o gyfleoedd i ddigidol i helpu gyda’r heriau sy’n wynebu’r gwasanaeth iechyd trwy wella mynediad at wasanaethau a chefnogi pobl i gynnal iechyd a llesiant da. Rydym am ddefnyddio digidol a data i ysgogi gwelliant a datblygiad gwasanaethau ac, yn bwysig iawn, rydym am gefnogi cynhwysiant digidol, gan sicrhau bod y datblygiadau hyn o fudd i bawb.
Er bod y dyfodol ar gyfer iechyd a gofal digidol yn gyffrous, rwy’n credu’n gryf y bydd pobl bob amser wrth galon y GIG. Mae ein sefydliad yn ymwneud â phobl yn creu offer digidol i helpu pobl eraill. Felly gadewch inni ddefnyddio dathliadau heddiw i fyfyrio ar y cyflawniadau a wnaed gan bawb sydd wedi gweithio - ac sy’n dal i weithio i GIG Cymru – a diolch iddynt am eu hymrwymiad a’u hymroddiad. Hebddynt ni fyddem wedi cyrraedd carreg filltir wych heddiw ar gyfer ein gwasanaeth iechyd.