Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu blwyddyn o Iechyd a Gofal Digidol Cymru

1 Ebrill 2022

Lansiwyd Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) flwyddyn yn ôl i heddiw, gan ddod yn sefydliad GIG Cymru ar gyfer y maes digidol, data a thechnoleg. 

Yn ei flwyddyn gyntaf, mae DHCW wedi parhau i chwarae rhan hanfodol yn ymateb GIG Cymru i’r pandemig, yn ogystal â darparu gwasanaethau gweithredol sy’n trawsnewid y ffordd mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu.  

Mae cerrig milltir allweddol ym mlwyddyn gyntaf DHCW yn cynnwys: 

  • Symud i Wasanaethau Cwmwl a Chanolfan Ddata newydd 
  • Lansio’r System Adran Achosion Brys newydd 
  • Lansio’r System Fferylliaeth Ysbytai newydd 
  • Cyflwyno Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) ledled Cymru 
  • System Imiwneiddio Cymru yn ennill gwobr Dewis y Bobl yng Ngwobrau Impact Digi Leaders 2022 

Mae’r cerrig milltir hyn a mwy wedi’u cynnwys yn ein ffeithlun sy’n dathlu blwyddyn o gyflawniadau aruthrol.

Dywedodd Helen Thomas, y Prif Swyddog Gweithredol: “Rwy’n ystyried fy hun yn ffodus iawn i arwain ‘tîm DHCW’, ac i weithio gyda phobl sydd mor ymroddgar ac yn barod i fynd yr ail filltir. Rwyf wirioneddol yn credu bod yr hyn rydym wedi’i gyflawni yn ein blwyddyn gyntaf wedi bod yn rhyfeddol ac mae wir yn werth ei ddathlu.  

“Gan edrych ymlaen at y 12 mis nesaf, rwy’n gwybod y gallwn gwblhau gwaith mwy rhyfeddol a gwireddu’r potensial i wneud gwasanaethau digidol yn rhan annatod o bob agwedd ar iechyd a gofal yng Nghymru.”