Neidio i'r prif gynnwy

Dangosfwrdd myeloma cenedlaethol yn cael ei gydnabod yn seremoni Moondance

8 Gorffennaf 2022

Rhoddwyd sylw i ddangosfwrdd canser cenedlaethol yn ystod y seremoni enwebu yng Ngwobrau Canser Moondance eleni, gan dynnu sylw at dimau a phobl ar draws GIG Cymru a'i bartneriaid sy'n arloesi gwasanaethau canser ledled Cymru.   

Mae Dangosfwrdd Myeloma Cenedlaethol Cymru yn cefnogi ehangu'r gwasanaethau myeloma presennol yng Nghymru drwy gofnodi gweithgarwch timau clinigol o ran nifer y cleifion sy'n cael diagnosis o myeloma y flwyddyn, dadansoddiad o'r trefnau cemotherapi a gânt ac effaith y triniaethau hyn o ran goroesi ac ansawdd bywyd. Gellir defnyddio'r dangosfwrdd hefyd i  

ddadansoddi sut mae cleifion yn cael diagnosis o myeloma a nodi unrhyw fylchau yn y llwybr a allai gyfrannu at golli neu ohirio diagnosis. 

Mae'r dangosfwrdd yn defnyddio data o'r Warws Data Cenedlaethol a Thaflen Barhad Cleifion Allanol  Haembase Cymru, a ddatblygwyd mewn partneriaeth rhwng Canolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru, Timau Adnoddau Data Cenedlaethol a Gwasanaethau Gwybodaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Cyhoeddir y dangosfwrdd ym meddalwedd PowerBI Microsoft a gall unrhyw un yn GIG Cymru sydd â chyfrif NADEX a Office 365 ei weld. 

Myeloma lluosog yw'r canser gwaed sy’n lladd y mwyaf o bobl yn y DU ac mae'n achosi mwy na 100 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn.