Neidio i'r prif gynnwy

Cynnydd ym maes data a dadansoddeg ar gyfer Gweithrediaeth y GIG trwy'r Platfform Data a Dadansoddeg Cenedlaethol

29 Mai 2024

Ym mis Mawrth 2024, cyrhaeddodd tîm traws-sefydliadol sy’n trin data cenedlaethol pwysig yng Nghymru garreg filltir bwysig o ran diweddaru a gwella ei ddefnydd o ddata, drwy symud ei weithrediadau data i blatfform cwmwl yr Adnodd Data Cenedlaethol.   

Mae Gweithrediaeth y GIG, sy’n gyfrifol am ddarparu data hanfodol i Lywodraeth Cymru o bob Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth yng Nghymru, wedi moderneiddio’r modd y mae’n storio setiau data hanfodol o ddefnyddio system fewnol i ddefnyddio’r Platfform Data a Dadansoddeg Cenedlaethol (NDAP). Mae’r platfform hwn yn wasanaeth cwmwl a grëwyd ac a weithredir gan yr Adnodd Data Cenedlaethol (NDR) ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC).   

Mae tîm deallusrwydd digidol Gweithrediaeth y GIG wedi gweithio'n helaeth gyda thimau Platfform Dadansoddi Data Cenedlaethol (NDAP) a Dadansoddeg Uwch yr NDR, a hwn yw'r sefydliad cyntaf yng Nghymru i wneud defnydd llawn o'r NDAP.    

Yn y tymor byr, mae llwyddiant y prosiect hwn yn galluogi Gweithrediaeth y GIG i elwa ar system ddata fwy modern a chadarn. Wrth inni edrych i'r dyfodol, bydd trosglwyddo i NDAP yn galluogi mynediad at offer dadansoddeg uwch ac yn gwella effeithlonrwydd, cywirdeb ac amseroldeb darparu data trwy biblinellau symlach. Bydd hyn, yn ei dro, yn ysgafnhau'r baich ar y darparwyr data yn y Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau.    

 
 

 

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â drwy anfon e-bost at NDR.comms@wales.nhs.uk.