Neidio i'r prif gynnwy

Cymeradwyo Positive Solutions i gyflwyno meddalwedd rhagnodi electronig yng Nghymru

 

1 Gorffennaf 2024

Mae’r gwaith o gyflwyno rhagnodi electronig yng Nghymru yn symud yn ei flaen yn gyflym, a Positive Solutions yw’r darparwr technoleg iechyd diweddaraf i gael ei feddalwedd wedi’i gymeradwyo ar gyfer defnydd llawn yn ei fferyllfeydd cymunedol. 

Positive Solutions yw’r trydydd cyflenwr i dderbyn caniatâd i ddefnyddio ei dechnoleg Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yng Nghymru. Maent yn ymuno ag Invatech a Boots fel y cwmnïau sydd wedi datblygu a phrofi eu systemau fferylliaeth yn llwyddiannus er mwyn gallu derbyn presgripsiynau yn electronig. 

Mae’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yn caniatáu i feddygon teulu a rhagnodwyr eraill anfon presgripsiynau yn electronig i fferyllfa o ddewis y claf. Yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes angen argraffu’r ffurflen bapur werdd mwyach na mynd â hi i’r fferyllfa, sy’n lleihau’r defnydd o bapur yng Nghymru a helpu’r amgylchedd. 

Mae EPS yn rhan allweddol o’r rhaglen drawsnewid Moddion Digidol, a reolir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru, ac mae’n gwneud y broses o ragnodi a dosbarthu meddyginiaethau yn fwy diogel, yn haws ac yn fwy effeithlon i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. 

 
 

Lansiwyd y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yn y Rhyl, Sir Ddinbych, ym mis Tachwedd 2023 ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio mewn nifer o safleoedd yn Ne a Gogledd Cymru. Gan ddechrau’r haf yma, bydd y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno gam wrth gam ym mhob fferyllfa a phractis meddyg teulu, a bydd y broses yn cael ei chwblhau mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl. 

Mae symud o ddefnyddio papur i broses ddigidol yn gymhleth, ac mae’n dibynnu ar gyflenwyr TG meddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol i ddylunio eu systemau i ganiatáu anfon a derbyn presgripsiynau electronig yn ddiogel. Mae nifer o gyflenwyr eraill yn y broses o uwchraddio technoleg eu system fferylliaeth yn barod i’w defnyddio yng Nghymru. 

Cefnogwyd y datblygiad hwn gan Gronfa Arloesi System Fferylliaeth yn y Gymuned, a sefydlwyd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Moddion Digidol ar ran Llywodraeth Cymru. 

 

Mae symud o’r broses presgripsiynau papur i wasanaeth digidol yn un o’r newidiadau mwyaf ym maes gofal iechyd ers degawdau. Ac er mwyn iddo weithio mae angen i systemau TG meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol fedru anfon a derbyn presgripsiynau electronig yn ddiogel.  

I ddarganfod mwy ewch i’n gwefan Moddion Digidol.