Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau newydd

16 Tachwedd 2022

Mae’n bleser gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru gyhoeddi penodiad Sam Lloyd i swydd Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau.

Bydd y rôl yn gyfrifol am weithredu a darparu strategaeth ddigidol uchelgeisiol a thrawsnewidiol ar gyfer Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Mae Sam yn ymuno â’r tîm yn dilyn 19 mlynedd o brofiad mewn rolau arwain technoleg ar draws y sector iechyd, gan gynnwys fel Pennaeth Technoleg ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Lloegr a fwyaf diweddar fel Pennaeth Gweithle, Lletya a Rheoli Gwasanaeth adeg ffurfio y Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA).  Mae UKHSA yn gyfrifol am ddiogelu pob aelod o bob cymuned rhag effaith clefydau heintus, digwyddiadau cemegol, biolegol, radiolegol a niwclear a bygythiadau iechyd eraill.

Yn ystod ei gyfnod yn UKHSA a rolau blaenorol yn Iechyd Cyhoeddus Lloegr a’r Asiantaeth Diogelu Iechyd, mae Sam wedi bod yn gyfrifol am sefydlu galluedd technoleg o’r radd flaenaf a defnyddio digidol, technoleg a data i wella canlyniadau iechyd y cyhoedd.

Pan ofynnwyd iddo am ei rôl newydd, dywedodd Sam ““Mae DHCW yn sefydliad cyffrous ac mae ganddo genhadaeth hollbwysig. Mae'r pandemig wedi tynnu sylw arbennig at y rôl hanfodol y mae’r byd digidol a thechnoleg yn ei chwarae wrth helpu sefydliadau i arloesi, cyflymu cynnydd a chyrraedd cwsmeriaid mewn ffyrdd newydd. Rwy’n credu bod DHCW yn ymateb i'r her hon. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â’r sefydliad a chwarae fy rhan wrth inni barhau i drawsnewid darpariaeth Iechyd a Gofal yng Nghymru.”


Rydym i gyd yn edrych ymlaen at groesawu Sam i deulu Iechyd a Gofal Digidol Cymru ym mis Ionawr.