Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarwyddwyr Gweithredol Newydd yn ymuno â Bwrdd Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)

11 Ionawr 2022

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn falch o gyhoeddi penodiad dau gyfarwyddwr gweithredol newydd.

Penodwyd Ifan Evans, sy’n Gyfarwyddwr Technoleg, Digidol a Thrawsnewid Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, yn Gyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth.

Mae gan Ifan brofiad helaeth mewn arloesi a arweinir gan dechnoleg a dealltwriaeth ddofn o ddigidol a data.  Roedd yn gyfrifol am ysgrifennu strategaeth Cymru Iachach Llywodraeth Cymru ac mae wedi arwain polisi iechyd a gofal digidol yng Nghymru ers 2019 - gan osod cyfeiriad strategol newydd, cryfhau trefniadau cyflawni, a chynyddu buddsoddiad i drawsnewid digidol yn sylweddol.  

Wrth sôn am ei benodiad newydd dywedodd Ifan Evans: "Rwy'n falch iawn o fod yn ymuno â DHCW. Nid yw gwasanaethau digidol erioed wedi bod yn bwysicach i bobl Cymru. Mae hwn yn gyfle gwych i weithio'n agosach fyth gyda'r tîm yn DHCW ac i arwain ar arloesedd a strategaeth."

Mae penodiad llwyddiannus hefyd wedi'i wneud i rôl Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau, a chyhoeddir rhagor o fanylion yn fuan, unwaith y bydd cyfnod rhybudd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi'i gwblhau.

Dywedodd Helen Thomas, Prif Swyddog Gweithredol DHCW: "Rwy'n wirioneddol falch o gyhoeddi ein bod wedi gwneud y ddau benodiad newydd hyn. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r ddau a chredaf y byddant yn benodiadau amhrisiadwy i'r Bwrdd.  Maent yn dod â phrofiad helaeth a safbwyntiau newydd a byddant yn chwarae rhan bwysig yn ein helpu i ddatblygu ein rhaglen genedlaethol uchelgeisiol i alluogi trawsnewid iechyd a gofal yn ddigidol yng Nghymru.

Bydd y ddau benodiad newydd yn ymgymryd â'u swyddi gyda DHCW yn y gwanwyn.