Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarwyddwr Iechyd a Gofal Digidol Cymru i siarad yn y digwyddiad MediWales nesaf; bydd yn trafod Ymchwil ac Arloesi yng Nghymru

9 Mawrth 2023

Mae digwyddiad MediWales ar y gweill yn Llundain a fydd yn tynnu sylw at ddatblygiadau technegol newydd yn GIG Cymru a Gwyddorau Bywyd Cymru.

Bydd Rachael Powell, Cyfarwyddwr Cyswllt Gwybodaeth, Deallusrwydd ac Ymchwil Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn siaradwr gwadd.  Dywedodd Rachael, “Ar ôl cyhoeddi Strategaeth Ymchwil ac Arloesi Iechyd a Gofal Digidol Cymru, rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â chydweithwyr i siarad am ein cynlluniau cydweithio â phartneriaid i wella’r gwaith arloesi yng Nghymru trwy wella cyfleoedd data a digidol.”

Mae’r digwyddiad BioCymru yn Llundain ar 14 Mawrth 2023 yn rhad ac am ddim i holl aelodau MediWales a sefydliadau partner.

Bwriad y digwyddiad yw darparu platfform unigryw ar gyfer datblygiadau newydd a chyffrous, ac hefyd ar gyfer cwmnïau sy'n chwilio am fuddsoddiad a chydweithrediadau. Bydd cyflwyniadau gan amrywiaeth o gwmnïau o Gymru sydd ar gamau amrywiol o'u profiad fel buddsoddwyr. Bydd hefyd gyflwyniadau gan banel o fuddsoddwyr arbenigol. Byddant hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd ar gyfer cydweithio ym maes arloesi ac ymchwil yn y GIG, yn ein sesiwn 'Gweithio gyda GIG Cymru' ac yn trafod mynediad clinigol, mabwysiadu a threialon clinigol.

Cofrestrwch i ddod i’r digwyddiad yma.