Neidio i'r prif gynnwy

Cydweithrediad yn sicrhau cynhwysiant digidol yn Sir Ddinbych

Medi 12 2024

Mae pobl yn Sir Ddinbych yn ennill y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnynt i ddefnyddio offer digidol fel Ap GIG Cymru.

Mae’r rhaglen Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a’r Cyhoedd (DSPP) yn IGDC sy’n datblygu’r ap wedi bod yn gweithio’n agos gyda Chymunedau Digidol Cymru a Hyder Digidol Sir Ddinbych i helpu pobl yn yr ardal i ddechrau defnyddio nodweddion yr ap. Mae Ap GIG Cymru a’r wefan gysylltiedig yn cynnig mynediad hawdd at ystod o wasanaethau iechyd a gofal.

Nid yw hyd at 9% o boblogaeth Sir Ddinbych ar-lein, o gymharu â 7% yn genedlaethol. Mae hyn yn golygu na all llawer o bobl yn yr ardal gael mynediad at wasanaethau hanfodol ac maent yn wynebu’r risg o allgau digidol. Gallai hyn arwain at lai o fynediad at ofal, neu at oedi wrth gael mynediad at ofal, gwahaniaethau mewn canlyniadau iechyd a mwy o anghydraddoldeb cymdeithasol. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae Cwmpas yn darparu nifer o fentrau Cynhwysiant Digidol ledled Cymru, y prosiect Hyder Digidol Sir Ddinbych, a ariennir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU tan ddiwedd mis Rhagfyr 2024, a rhaglen Cynhwysiant Digidol Cymunedau Digidol Cymru Llywodraeth Cymru, sy’n rhedeg tan fis Mehefin 2025. Mae rhaglen Hyder Digidol Sir Ddinbych yn darparu cymorth digidol un-i-un i’r cyhoedd yn ardal yr awdurdod lleol trwy sesiynau galw heibio, gweithdai a chyrsiau sgiliau hanfodol. Maen nhw hefyd yn cynnig sesiynau pwrpasol i gyflwyno pobl i Ap GIG Cymru.

Mae Hwyluswyr Newid Busnes IGDC, fel rhan o Dîm Ymgysylltu DSPP, wedi cefnogi darpariaeth Cwmpas trwy fynychu sesiynau ar-lein i ddarparu atebion manylach i gwestiynau penodol am yr ap.

Ers Ionawr 2024, mae Hyder Digidol Sir Ddinbych wedi cynnig 23 o sesiynau ‘Dod i Adnabod Ap GIG Cymru’. Mae’r sesiynau hyn yn helpu pobl i gael mynediad i’r ap a’i ddefnyddio i reoli eu hiechyd a’u llesiant. Mae cyfranogwyr yn dysgu’r pethau sylfaenol, fel mewngofnodi, llywio’r ap, archebu a rheoli apwyntiadau meddyg teulu, ac archebu presgripsiynau rheolaidd, os yw eu practis meddyg teulu yn cynnig y nodweddion hyn.

Mae adborth o’r sesiynau wedi bod yn gadarnhaol, gyda chyfranogwyr yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth wyneb yn wyneb. Dyma rai o’r sylwadau a gafwyd: “Mae wedi bod yn hynod ddefnyddiol”, “Dwi’n falch fy mod i wedi dechrau defnyddio’r ap”, “Roedd y cwrs yn dda ac yn hawdd ei ddeall”, “Gweithdai defnyddiol iawn” a “Dwi’n falch iawn fy mod i wedi mynychu”.

Dywedodd Joanna Dundon, Arweinydd Digidol Cenedlaethol - Ymgysylltu â’r Cyhoedd yn IGDC: “Rydyn ni’n awyddus iawn bod cleifion a’r cyhoedd yng Nghymru yn gallu defnyddio Ap GIG Cymru ac i sicrhau nad ydyn nhw’n cael eu hallgáu’n ddigidol oherwydd diffyg seilwaith neu fand eang, dyfeisiau neu hyder - pethau y gall y rhan fwyaf ohonom eu cymryd yn ganiataol. 

“Trwy weithio gyda phrosiectau Cynhwysiant Digidol Cwmpas fel Hyder Digidol Sir Ddinbych a Chymunedau Digidol Cymru, yn ogystal â sefydliadau trydydd sector, GIG Cymru ac awdurdodau lleol sydd wedi cael hyfforddiant gan Gymunedau Digidol Cymru, rydym wedi gweld bod hon yn ffordd wych o ddod o hyd i Hyrwyddwyr Digidol a’u hyfforddi yn ein cymunedau lleol i gefnogi ac annog pobl i godi tabled a mewngofnodi i’r ap. Mae cael hyrwyddwyr sy’n aelodau o’u cymunedau y mae pobl yn ymddiried ynddynt yn golygu y gallwn sicrhau y bydd y cymorth hwn yn helpu pobl i deimlo eu bod wedi’u grymuso i ofalu am eu hiechyd a’u llesiant yn ddigidol. Rydyn ni wedi bod yn ffodus i fedru dechrau meithrin cysylltiadau ledled Cymru a’r gobaith yw y bydd hyn yn cael ei ailadrodd ym mhob rhan o’r wlad.” 

Dywedodd Jocelle Lovell, Cyfarwyddwr Cymunedau Cynhwysol yn Cwmpas: “Gan weithio gyda Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a’r Cyhoedd, mae Cymunedau Digidol Cymru wedi cefnogi sefydliadau i ddeall Ap GIG Cymru, hyrwyddo ei ddefnydd a chefnogi’r sefydliadau hynny i helpu eu cleientiaid i’w ddefnyddio. Mae Hyder Digidol Sir Ddinbych wedi gallu cynnig cefnogaeth uniongyrchol i bobl yn Sir Ddinbych, gan eu helpu i gofrestru ar gyfer yr ap a deall sut i’w ddefnyddio’n effeithiol. 

“Mae mynediad at wasanaethau digidol yn hanfodol i bob aelod o’n cymdeithas ac mae’n hollbwysig nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl pan fydd gwasanaethau newydd yn cael eu cyflwyno. Rydym wedi bod yn falch iawn o allu gweithio gyda Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a’r Cyhoedd i’w cefnogi i gyflwyno Ap GIG Cymru ac i sicrhau bod gan y rheiny sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau y sgiliau i’w ddefnyddio.”

Bydd sawl sesiwn ‘Dod i Adnabod Ap GIG Cymru’ yn cael eu cynnal yn Sir Ddinbych dros yr wythnosau nesaf:

  • HWB Dinbych – Dydd Llun, 16 Medi, 1-3pm
  • Llyfrgell Prestatyn – Dydd Llun, 30 Medi, 2-4pm
  • Llyfrgell Llangollen – Dydd Mercher, 2 Hydref, 2:30-4:30pm
  • Canolfan Naylor Leyland, Rhuthun – Dydd Gwener, 4 Hydref, 2-4pm
  • Llyfrgell Corwen – Dydd Llun, 21 Hydref, 2:30-4:30pm

Gallwch archebu gweithdy drwy wefan Hyder Digidol Sir Ddinbych, drwy e-bostio dcdenbighsire@cwmpas.coop neu drwy ffonio 03001115050 a dewis opsiwn 2.

I ddysgu mwy am sut y gallwch chi helpu eraill i fabwysiadu Ap GIG Cymru, ewch i ganolfan adnoddau Ap GIG Cymru.