Neidio i'r prif gynnwy

Cydweithrediad llyfrgelloedd GIG Cymru yn ennill gwobr 'Tîm y Flwyddyn' ar gyfer rhaglen hyfforddi genedlaethol

6 Rhagfyr 2022

Mae cydweithrediad rhwng Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru (NHSWLKS) ac e-Lyfrgell GIG Cymru wedi ennill ‘Gwobr Tîm Llyfrgell Cymru y Flwyddyn 2022’ CILIP Cymru Wales am gynhyrchu rhaglen arloesol o hyfforddiant byw ac wedi’i recordio ymlaen llaw i ddefnyddwyr llyfrgell staff y GIG ledled Cymru.

Yn ystod pandemig COVID-19, datblygodd NHSWLKS raglen hyfforddi genedlaethol o’r newydd gan wneud chwilio am lenyddiaeth a thystiolaeth yn llai llethol ac yn fwy cyraeddadwy i bawb – yn enwedig i’r rhai sy’n gweithio o bell. Cefnogodd e-lyfrgell GIG Cymru y rhaglen drwy ddarparu cymorth technegol a chynhyrchu gweminarau hyfforddiant ag arweiniad ar gyfer defnyddwyr.

Er bod y pandemig yn lleddfu, mae’r gweminarau a recordiwyd yn parhau i fod yn offer poblogaidd ar gyfer hyfforddiant, wedi’u cynllunio i gyd-fynd ag amserlenni gwaith prysur a heriol a heb yr angen i ddefnyddwyr fod yn gysylltiedig â rhwydwaith GIG Cymru.

“Fe wnaeth y fenter ragorol hon helpu clinigwyr sy’n gweithio ar draws GIG Cymru i wella eu gwybodaeth a’u sgiliau ar adeg dyngedfennol,” meddai Jason Thomas, Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth CILIP Cymru Wales. “Dangosodd staff llyfrgelloedd y GIG ystwythder, dyfeisgarwch, ac ymrwymiad gwych i’w defnyddwyr wrth ddatblygu’r rhaglen arloesol hon. Maent yn dderbynwyr teilwng iawn o’r wobr hon.”

“Ni allai’r gweminarau hyn fod wedi llwyddo cystal heb y gefnogaeth enfawr gan wasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru a oedd yn hyrwyddo’r gweminarau hyn yn barhaus i’w noddwyr,” meddai Rebecca Meyrick, Arbenigwr Ymgysylltu a Dysgu e-lyfrgell GIG Cymru. “Mae’r gweminarau hyn yn dal i gael eu defnyddio – nid yn unig gan staff GIG Cymru – ond gan bawb sy’n dymuno dysgu mwy am wasanaethau llyfrgell GIG Cymru.”

“Fel tîm, roeddem wedi plesio’n aruthrol o gael ein cydnabod gan CILIP,” meddai Rhys Whelan, Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru yn Ysbyty Treforys. “Rydym yn falch iawn o gefnogi staff a myfyrwyr ar draws GIG Cymru i ddatblygu sgiliau llythrennedd gwybodaeth i ddarparu gofal iechyd yn seiliedig ar dystiolaeth. Edrychwn ymlaen at gyflwyno rhagor o weminarau yn y dyfodol.”

CILIP Cymru Wales yw’r llais blaenllaw ar gyfer y proffesiwn gwybodaeth, rheoli gwybodaeth a llyfrgelloedd yng Nghymru.