13eg Tachwedd 2023
Nodwyd yr angen am gofnod electronig Cymru gyfan i helpu i wella cynllunio a darpariaeth iechyd meddwl yng Nghymru yn dilyn cam un o brosiect darganfod gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Nod y prosiect yw nodi meysydd lle y gall digidol, data a thechnoleg ychwanegu gwerth at wasanaethau iechyd meddwl. Mae'n dilyn ymlaen o waith Iechyd a Gofal Digidol Cymru i ddatblygu set ddata iechyd meddwl genedlaethol yn unol â Strategaeth Llywodraeth Cymru, Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.
Bu Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gweithio’n agos gyda'r rhai sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl yn ardal Cwm Taf Morgannwg ar gyfer cam un y prosiect. Mae hyn yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Awdurdodau Lleol a Gofal Sylfaenol.
Dywedodd Elaine Lorton, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:
“Fel bwrdd iechyd, mae CTM wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith cwmpasu hwn gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru a phartneriaid eraill, ac mae wedi rhoi’r cyfle i ni helpu i lunio syniadau a phenderfyniadau yn y dyfodol yn y maes ymarfer pwysig hwn.
“Rydym yn gwybod y bydd symud i system ddigidol ddiogel sydd wedi’i halinio’n well, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl yn ein cymunedau. Rydym wedi croesawu’r cyfle i feddwl yn ehangach ar draws ystod o atebion, ac edrychwn ymlaen at wireddu’r canlyniadau er budd cleifion, eu gofalwyr, ein partneriaid a’n gweithlu.”
Dywedodd Sam Hall, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol Gofal Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl, Iechyd a Gofal Digidol Cymru:
“Mae digidol a data yn hanfodol i gyflawni iechyd a gofal ledled Cymru. Mae gwybodaeth gydgysylltiedig, sydd ar gael i’r bobl iawn, ar yr adeg iawn ac yn y ffordd gywir yn ein helpu i ddarparu gwell gwasanaethau iechyd meddwl mewn ffordd ddiogel ac effeithiol. Bu’n brofiad ysbrydoledig i fod yn rhan o’r gwaith hwn gyda Chwm Taf Morgannwg, ac rydym bellach yn deall cymaint mwy am anghenion digidol a data pobl sy’n rhoi ac yn derbyn gofal.”
Nodwyd sawl rhwystr cyffredin wrth gael mynediad at ddata a rhannu data. Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf o ddata iechyd meddwl yn dal i gael ei storio ar bapur. Nid yw'n hawdd rhannu unrhyw ddata digidol a gesglir ar draws lleoliadau gofal iechyd a ffiniau daearyddol. Mae hyn yn golygu bod cleifion ar hyn o bryd yn gorfod ailadrodd eu straeon, sy’n aml yn drawmatig, sawl gwaith wrth gael mynediad at wahanol wasanaethau iechyd meddwl.
Mae’n her i ymarferwyr iechyd meddwl ar hyn o bryd wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth oherwydd diffyg data cyfredol a diffyg gwybodaeth am y galw a’r capasiti yn y system ar y pryd.
Roedd ymarferwyr iechyd meddwl yn teimlo nad oes ganddynt fynediad at yr holl wybodaeth sydd ar gael am glaf, gan gynnwys pwy sy'n ymwneud â darparu gofal i glaf penodol. Mae hyn oherwydd bod cleifion yn cael mynediad at ofal gan nifer o wasanaethau y tu mewn a'r tu allan i'r GIG ac nad yw’r data yn eu dilyn o un gwasanaeth i'r llall.
Mae'n rhaid i ymarferwyr hefyd fewngofnodi i nifer o systemau er mwyn cael mynediad at wybodaeth am glaf, neu ofyn am gopïau papur o nodiadau.
Nododd yr adborth cyson gan ymarferwyr iechyd meddwl yn ystod cam un y gwaith darganfod yr angen am gofnod electronig Cymru gyfan. Iechyd a Gofal Digidol Cymru yw’r unig sefydliad iechyd yng Nghymru sydd â’r hawl gyfreithiol i gadw data ar lefel cleifion ar gyfer Cymru gyfan a byddai’n chwarae rhan allweddol mewn datblygu datrysiad digidol i gasglu a rhannu data ar y sail ‘angen gwybod’.
Nodwyd cyfleoedd eraill hefyd i wella darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod y gwaith darganfod. Ffocws penodol yw pwysigrwydd gofal cydgysylltiedig, cydweithio ac integreiddio ar draws sectorau.
Byddai ymagwedd at ofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn grymuso unigolion i gymryd rhan effeithiol wrth gynllunio a threfnu eu darpariaeth gofal eu hunain. Mae ymyrraeth gynnar ac atal hefyd yn allweddol i leihau problemau sy’n codi neu eu rhwystro rhag gwaethygu.
Ar hyn o bryd mae sawl llwybr gwahanol i ddinasyddion gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl a gall hyn fod yn llethol. Ystyrir bod stigma o hyd ynghylch iechyd meddwl sy’n gwneud i rai pobl fod yn gyndyn o ofyn am gymorth.
Amlygodd y gwaith darganfod bwysigrwydd teilwra cefnogaeth i anghenion unigolyn. Er enghraifft, nid yw meddyginiaeth bob amser yn ateb effeithiol ac weithiau dim ond rhywun i siarad ag ef sydd ei angen ar glaf.
Yn ail gam y gwaith darganfod bydd canfyddiadau cam un yn cael eu rhannu gyda phob rhanbarth i greu darlun Cymru gyfan o'r newidiadau sy’n angenrheidiol. Bydd cyrff cenedlaethol fel Gwelliant Cymru, Gweithrediaeth GIG Cymru a gwasanaethau arbenigol eraill hefyd yn cymryd rhan.
Yn bwysig ddigon, gofynnir i ddinasyddion a defnyddwyr gwasanaethau ledled Cymru rannu eu profiadau o gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl. Yn dilyn cam dau, y nod yw datblygu achos busnes amlinellol ar gyfer offeryn digidol a ddatblygir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru sy'n gweithio i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd.