3 Ebrill 2023
Mae’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn lansio cronfa newydd heddiw i helpu cyflenwyr systemau fferylliaeth gymunedol digidol yng Nghymru i ddarparu gwasanaeth presgripsiwn electronig (EPS).
Bydd cyflwyno EPS mewn gofal sylfaenol yng Nghymru yn gwneud y broses rhagnodi a gweinyddu yn fwy diogel, yn haws ac yn fwy effeithlon i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae’r gwaith yn rhan allweddol o’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol sy’n cael ei letya gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Bydd yn galluogi rhagnodwyr (fel meddygon teulu) i anfon presgripsiynau yn electronig i ddosbarthwr (fel fferyllfa gymunedol) o ddewis y claf.
Er mwyn cyflymu’r broses o wella’r gwasanaeth cyffrous hwn, mae Cronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol wedi’i sefydlu i ddarparu grantiau. Bydd y rhain yn helpu cyflenwyr systemau fferylliaeth gymunedol i ddatblygu eu systemau i ddefnyddio EPS a derbyn y trosglwyddiad electronig o bresgripsiynau. Mae’r Gronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol hefyd yn caniatáu i ymgeiswyr gyflwyno ceisiadau am gymorth ariannol i gyflawni arloesiadau a fydd yn arwain at gweinyddu’n ddi-bapur ac integreiddio ag ap newydd GIG Cymru.
Bydd y gronfa’n cael ei darparu gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru mewn partneriaeth â’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol ar ran Llywodraeth Cymru.
Meddai Hamish Laing, Uwch Berchennog Cyfrifol Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol, “Rydym yn gyffrous i fod yn lansio’r gronfa hon sy’n rhoi cyfle hollbwysig i gefnogi nid yn unig y newidiadau technegol sydd eu hangen i weithredu EPS yng Nghymru ond hefyd gwelliannau a fydd yn helpu i foderneiddio arferion fferylliaeth a darparu gwasanaeth a phrofiad llawer gwell i gleifion.”
Mae’r gronfa ar agor o heddiw tan fis Hydref 2024, a gwahoddir cyflenwyr systemau fferylliaeth gymunedol i wneud cais ar draws y tair haen ganlynol;
Mae’r gronfa yn agored i geisiadau gan fusnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU sydd ar hyn o bryd yn cyflenwi, neu sydd â’r potensial i gyflenwi, gwasanaethau digidol i fferyllfeydd yng Nghymru ac mae ychydig dros £110,000 ar gael fesul cyflenwr i wneud cais amdano, ar draws pob un o’r tair haen. Dim ond gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r nodau a eglurir ym mhob haen sydd o fewn cwmpas y gronfa. Bydd pob haen ar gyfer uchafswm rhagddiffiniedig sydd ar gael, am hyd at 100% o’r costau refeniw y ceir tystiolaeth ohonynt ar gyfer gwaith sy’n ymwneud â gofynion yr haen honno.
Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, “Bydd digideiddio gwasanaeth presgripsiwn Cymru yn darparu system fwy diogel a mwy effeithlon a fydd o fudd i gleifion, gan ryddhau amser ac adnoddau hanfodol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Rydym yn falch o gefnogi’r trawsnewid hwn trwy reoli’r gronfa a’r broses ddyfarnu ac edrychwn ymlaen at weld gwell darpariaeth o wasanaethau ar draws y wlad.”
Mae’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol, sy’n cynnwys datblygu a chyflwyno’r EPS Gofal Sylfaenol, yn un o ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ac mae’n cael ei gefnogi gan Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Bydd EPS yn rhoi llawer o fanteision i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gan gynnwys y canlynol:
Darperir y gronfa arloesi gan Gronfa Buddsoddi mewn Blaenoriaethau Digidol Llywodraeth Cymru ac mae’n gam pwysig ymlaen i helpu fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru i wella eu defnydd o dechnoleg ddigidol.
Mae Andrew Evans, Prif Swyddog Fferyllol Cymru, wedi croesawu lansiad y gronfa. Dywedodd, “Wrth i ni symud ymlaen i ddigideiddio presgripsiynau mewn gofal sylfaenol yng Nghymru, rydym am annog fferyllfeydd cymunedol i ddefnyddio technoleg ddigidol yn well yn eu gwaith o ddydd i ddydd i greu cyfleoedd i weithio’n fwy effeithlon, gan wella profiad cleifion. Bydd y Gronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol yn helpu fferyllfeydd a’u systemau TG i weithredu mewn ffordd wirioneddol ddi-bapur, yn gallu derbyn, prosesu ac olrhain presgripsiynau’n ddigidol, a hysbysu cleifion pan fydd eu presgripsiynau’n barod, gan adeiladu ar allu o fewn Ap GIG Cymru. Mae’r gronfa yn gam mawr ymlaen i fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru a bydd yn eu helpu i wireddu’r cyfleoedd sylweddol a gyflwynir gan ffyrdd digidol o weithio.”
Gall cyflenwyr systemau fferylliaeth gymunedol ddarganfod mwy am y gronfa, meini prawf cymhwysedd a sut i wneud cais drwy fynd i wefan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru neu gysylltu â funding@lshubwales.com
*Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Alison Watkins, Pennaeth Cyfathrebu Strategol ac Ymgysylltu, DMTP ar 07854 386054 neu e-bostiwch alison.watkins3@wales.nhs.uk