Neidio i'r prif gynnwy

Croeso i'n tîm newydd o feddygon teulu

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod gennym dîm newydd o bum Meddyg Teulu sydd wedi ymuno â DHCW yn rhan-amser yn ein Cyfarwyddiaeth Glinigol.

Mae’r tîm o bump yn cynnwys tri Chyfarwyddwr Meddygol Cyswllt newydd, Dr Sayma Ahmed, Dr Steve Short a Dr Alexandra Rinnert. Mae Dr Jonathan Campbell yr Arweinydd Meddygon Teulu ar gyfer Meddygaeth Ddigidol a Dr Aled Davies yr Arweinydd Meddygon Teulu ar gyfer Gwasanaethau Digidol i Gleifion a’r Cyhoedd hefyd wedi ymuno â ni.

Mae’r tîm yn dod ag ystod mawr o brofiad i’r sefydliad a bydd yn darparu cyngor clinigol a sicrwydd i’n ffrydiau gwaith trawsnewid digidol ar gyfer gofal sylfaenol. Mae'r tîm yn gweithio mewn partneriaeth â'n Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol, Rhidian Hurle a chyda phortffolio ein Cyfarwyddwr Cyswllt newydd ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gwybodeg Glinigol a Newid Busnes, Stephanie Harris. 

Yn y llun o'r chwith i'r dde: Dr Steve Short, Dr Jonathan Campbell, Dr Alexandra Rinnert, Dr Sayma Ahmed a Dr Aled Davies