25 Awst 2022
Bydd cleifion yng Nghymru sydd angen gofal deintyddol arbenigol yn parhau i olrhain eu hatgyfeiriadau drwy Wasanaeth Rheoli Atgyfeiriadau Deintyddol GIG Cymru yn dilyn contract newydd rhwng Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) a darparwr y system atgyfeirio, RMS Ltd.
Mae’r contract newydd – a fydd yn rhedeg o fis Mehefin 2023 i fis Mai 2027 – yn dilyn proses gaffael a arweiniwyd gan DHCW mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, gweithwyr deintyddol proffesiynol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a byrddau iechyd Cymru.
Mae RMS wedi rhoi cymorth i glinigwyr sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Rheoli Atgyfeiriadau Deintyddol drwy gydol y pandemig COVID. Mae cleifion yn defnyddio'r gwasanaeth i olrhain atgyfeiriadau ac er mwyn adrodd ar faterion llwybr. Bydd y parhad hwn yn y gwasanaeth yn galluogi gwelliannau pellach i'r system yng Nghymru gan wneud y mwyaf o'r buddion sydd gan y system i'w cynnig.