Neidio i'r prif gynnwy

Cofnodi'r 10 miliwnfed brechiad Covid yng Nghymru

2 Gorffennaf 2024

Mae System Imiwneiddio Cymru (WIS) bellach wedi cyrraedd carreg filltir enfawr ac wedi cofnodi bod 10 miliwn o frechiadau wedi cael eu rhoi ledled Cymru. 

Datblygwyd y system ddigidol ganolog yn fewnol gan IGDC ac mae wedi cefnogi gweinyddu brechiadau COVID-19 ers dechrau’r pandemig. Mae Byrddau Iechyd yn defnyddio WIS i nodi carfannau cymwys, cynllunio ble y caiff brechlynnau eu rhoi, trefnu apwyntiadau ac anfon gwahoddiadau. Mae brechwyr yn defnyddio’r system i gofnodi’r holl frechlynnau COVID-19 a roddir ac mae cydweithwyr fferyllol yn cofnodi lefelau a lleoliadau stoc y brechlynnau. Mae’r system gadarn hon hefyd yn caniatáu i frechlynnau ffliw a gyd-weinyddir ochr yn ochr â brechiad COVID-19 gael eu cofnodi ac yn nodi pobl nad ydynt wedi cael eu brechiad, gan sicrhau nad oes neb yn cael ei anghofio a bod pawb yn cael cyfle i gael brechiad.

I gael rhagor o wybodaeth am frechiadau, ewch i https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/