Neidio i'r prif gynnwy

Cofnod Gofal Nyrsio Cymru yn cyrraedd carreg filltir bwysig

9 Rhagfyr 2024

Mae Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) bellach ar gael yn llawn ym mhob ward cleifion mewnol oedolion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae hwn yn gam mawr ymlaen o ran defnyddio offer digidol i ddarparu gofal mwy diogel a mwy effeithlon.

Mae’r system yn disodli nodiadau nyrsio papur traddodiadol â system ddigidol. Mae nyrsys bellach yn defnyddio tabledi neu ddyfeisiau llaw i asesu cleifion wrth erchwyn eu gwelyau. Mae hyn yn arbed amser, yn gwella cywirdeb ac yn lleihau’r angen i ailadrodd tasgau. Trwy gael mynediad ar unwaith i’r wybodaeth ddiweddaraf am gleifion, gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wneud penderfyniadau cyflymach a mwy gwybodus am ofal claf.   

Dywedodd Jenny Winslade, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Mae cyflwyno Cofnod Gofal Nyrsio Cymru ar draws yr holl wardiau cleifion mewnol oedolion yn ein hysbytai yn garreg filltir allweddol yn ein strategaeth nyrsio, gyda nyrsio yn arwain y ffordd o ran arloesi digidol.

“Bellach mae gan ein staff fynediad ar unwaith at wybodaeth allweddol am gleifion, gan gynnwys dogfennau derbyn, asesiadau risg a nodiadau cyfredol o unrhyw le yn y Bwrdd Iechyd. Rwy’n falch iawn o’n nyrsys am groesawu’r newid hwn a sicrhau bod y cyfnod pontio yn llyfn, gwella cyfathrebu rhwng timau a chefnogi gwell gofal.

“Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth ac arbenigedd Iechyd a Gofal Digidol Cymru wrth helpu i gyflawni’r datblygiad hwn o Gofnod Gofal Nyrsio Cymru, sy’n darparu offeryn pwerus ar gyfer archwiliadau a gwelliannau parhaus i’n gwasanaethau.

“Mae’r Bwrdd Iechyd yn frwd i adeiladu ar y llwyddiant hwn, lleihau gwaith papur a mwyhau manteision systemau digidol ar draws adrannau a gwasanaethau eraill.”

Dywedodd Fran Beadle, Prif Swyddog Gwybodaeth Nyrsio, Iechyd a Gofal Digidol Cymru: “Rwy’n hynod falch o’m cydweithwyr yn IGDC a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan am gydweithio i gyrraedd y garreg filltir arwyddocaol hon. Ers lansio WNCR ym mis Ebrill 2021, rydym wedi cydweithio â byrddau iechyd i ehangu ei ddefnydd ar draws wardiau cleifion mewnol oedolion ledled Cymru ac rydym yn disgwyl cyrraedd darpariaeth o 100% yn 2025.

“Mae partneriaethau gyda byrddau iechyd fel BIP Aneurin Bevan wedi bod yn hanfodol i sicrhau bod Cofnod Gofal Nyrsio Cymru wir yn cwrdd ag anghenion gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Drwy wrando ar staff rheng flaen, rydym wedi datblygu system sydd nid yn unig yn lleihau gwaith papur, ond sydd hefyd yn grymuso nyrsys i dreulio mwy o amser gyda’u cleifion. Gyda mynediad ar unwaith at wybodaeth gywir a chyfredol, gallant wneud penderfyniadau cyflymach a mwy gwybodus, gan ddarparu gofal mwy diogel a gwell yn y pen draw.”

Mae Cofnod Gofal Nyrsio Cymru ar gael mewn 89% o wardiau cymwys ar draws pob un o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru ac Ymddiriedolaeth Felindre. Mae WNCR wedi cael ei ddefnyddio i asesu mwy na 421,000 o gleifion mewnol yn ddigidol a chofnodi bron i 20 miliwn o nodiadau nyrsio.

Mae cynlluniau bellach ar y gweill i ehangu WNCR i gynnwys asesiadau cleifion mewnol plant. Mae hyn yn dilyn cyllid o Gronfa Buddsoddi mewn Blaenoriaethau Digidol Llywodraeth Cymru.