Neidio i'r prif gynnwy

Clinigwyr i ddweud eu dweud ar systemau digidol ledled Cymru

27 Mawrth 2023

Bydd arolwg newydd yn casglu adborth gan glinigwyr sy’n gweithio i GIG Cymru ar effeithiolrwydd y systemau digidol sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd.

Mae'r arolwg o ddefnyddioldeb systemau digidol yn cael ei lansio ar 27 Mawrth a dyma'r astudiaeth ymchwil fwyaf o'i bath dan arweiniad defnyddwyr yn y wlad. Bydd clinigwyr sy’n gweithio ar draws y saith bwrdd iechyd yng Nghymru, a staff rheng flaen yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, yn cael eu gwahodd i roi eu barn.

Bydd yr arolwg, a lansiwyd gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW), yn casglu adborth ar lefel genedlaethol ac yn rhoi sgôr bersonol i bob sefydliad ar gyfer eu systemau eu hunain. Bydd cymorth pwrpasol yn cael ei gynnig fel y gall sefydliadau ddeall yr hyn mae’r canlyniadau’n ei olygu a gwneud newidiadau cadarnhaol.

Cwblhewch yr arolwg

Dywedodd Christian Smith, Prif Swyddog Gwybodaeth Nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:

“Rwy'n gyffrous iawn bod GIG Cymru ar fin lansio ei Arolwg Defnyddioldeb Systemau Digidol cenedlaethol cyntaf erioed yn ddiweddarach y mis hwn. Fel nyrs sydd wrth ei waith ar hyn o bryd, rydw i eisiau annog fy holl gydweithwyr ledled Cymru yn arbennig i gefnogi hynny – mae’n bwysig ein bod yn achub ar y cyfle hwn i ddweud ein dweud ar sut mae TG glinigol yn gweithio, ac i ddefnyddio ein llais i lunio ei dyfodol.

Mae'r arolwg yn cael ei gynnal ar ran DHCW gan y sefydliad ymchwil annibynnol KLAS Research, sydd wedi gweithio gyda GIG Lloegr a dros 250 o sefydliadau iechyd ledled y byd yn y gorffennol.

Y cyfnod ar gyfer cyflwyno ymatebion yw 27 Mawrth i 24 Ebrill 2023.

Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch ag: Louise Gregory yn louise.gregory@wales.nhs.uk