19 Hydref 2021
Cyhoeddir system labordy newydd heddiw ar gyfer GIG Cymru. Bydd y Gwasanaeth System Rheoli Gwybodaeth Labordy (LIMS) newydd yn rheoli dros 35 miliwn o brofion a brosesir gan yr 21 o labordai patholeg GIG Cymru bob blwyddyn.
Caiff y Gwasanaeth LIMS newydd ei ddefnyddio ar draws GIG Cymru yng Ngwyddorau Gwaed, Patholeg Celloedd a Chorffdy, Microbioleg a Seitoleg Iechyd Cyhoeddus Cymru a Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig.
Dewiswyd Citadel Health fel y cyflenwr TG a ffafrir ar gyfer contract £15.9 miliwn er mwyn cyflenwi ei feddalwedd Evolution vLab am saith mlynedd gyda’r dewis o ymestyn y contract am ddwy flynedd bellach. Mae’r contract yn cynnwys LIMS yn ogystal ag amrywiaeth o systemau a gwasanaethau sy’n cynnwys Haemonetics Blood Track a Nuance Dragon One Digital Dictation.
Mae dyfarnu’r contract yn dilyn proses gaffael drylwyr a reolir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar ran ac mewn partneriaeth a Rhaglen Rhwydwaith Gwybodaeth Labordy Cymru (LINC) gan Gydweithrediad Iechyd GIG Cymru.
Bydd LIMS yn cefnogi pob bwrdd iechyd, ysbyty a phractis meddyg teulu yng Nghymru a bydd yn cael ei ymgorffori i systemau iechyd TG iechyd craidd GIG Cymru.
Ymhlith y manteision allweddol mae cwblhau profion ynghynt, lleihau nifer y profion y mae angen eu hailadrodd, gwell diogelwch clinigol trwy geisiadau prawf electronig a sicrhau y gall y gwasanaeth ymdopi a’r galw uwch.
Dywedodd Judith Bates, Cyfarwyddwr Rhaglen LINC: Mae’n gyfnod cyffrous i’r gwasanaeth patholeg. Mae LINC yn edrych ymlaen at weithio gyda’r cyflenwr newydd, mewn partneriaeth ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru a gwasanaethau patholeg GIG Cymru, er mwyn sicrhau y caiff LIMS newydd ei ddatblygu i fodloni gofynion GIG Cymru ac y caiff ei ar waith yn ddiogel ar draws holl labordai a gwasanaethau patholeg.
Ychwanegodd Kevin Williams, Arbenigwr Arwain Pynciau Patholeg: “Mae hyn wedi bod yn gaffaeliad llwyddiannus iawn gan gynnwys llawer iawn o ymgysylltiad ac ymdrech gan staff ar draws nifer o sefydliadau. Oherwydd COVID-19 rydym wedi dysgu i weithio o bell mewn ffordd gwbl wahanol gan wneud y defnydd gorau o dechnoleg i hwyluso’r gwaith dan sylw, sy’n cynnwys cyflwyniadau gan gyflenwyr, trafodaethau â chyflenwyr ac ymweliadau rhithiol â safleoedd ym mhedwar ban byd.”
Bydd y system yn dechrau cael ei ddefnyddio yn 2023 a bydd yn disodli’r system LIMS presennol a gyflenwir gan InterSystems ac a gyflwynwyd yn 2013.