Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion mewn ysbytai i elwa o ragnodi digidol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Tri aelod o staff mewn coridor ysbyty yn sefyll tu ol gyfrifiadur personol sy

4 Gorffennaf 2025

 

Mae cleifion a staff gofal iechyd yng ngorllewin Cymru ar fin dechrau elwa o system ddigidol a fydd yn symleiddio rhagnodi mewn gwasanaethau eilaidd. 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dewis Better fel ei bartner technoleg i ddarparu system Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig (ePMA), a fydd yn arwain at ddisodli prosesau papur. 

Bydd y system yn lleihau’r risg o gamgymeriadau meddyginiaeth trwy sicrhau bod presgripsiynau’n glir, yn ddarllenadwy ac yn gyflawn, gyda gwiriadau diogelwch mewnol ar gyfer alergeddau a chywirdeb dosau.   

Mae BIP Hywel Dda yn ymuno â byrddau iechyd eraill yng Nghymru i gymryd y cam arwyddocaol hwn wrth gyflwyno rhagnodi electronig mewn ysbytai. Mae’r system ePMA yn rhan o’r rhaglen Moddion Digidol, a arweinir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC), i sicrhau bod rhagnodi, dosbarthu a rhoi meddyginiaethau yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon i gleifion a chlinigwyr.  

Dywedodd Anthony Tracey, Cyfarwyddwr Digidol BIP Hywel Dda: “Mae rhagnodi electronig yn gam pwysig yn ein trawsnewidiad digidol a bydd yn galluogi cyfathrebu di-dor rhwng adrannau a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Bydd cyflwyno ePMA yn helpu i sicrhau bod gwybodaeth am feddyginiaethau yn gywir ac yn gyfredol, gan ryddhau amser a dreulir gan staff ar ragnodi, gwirio, cyflenwi a rhoi meddyginiaethau. 
 
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio â Better a chydweithwyr yn y bwrdd iechyd dros y misoedd nesaf wrth i ni baratoi i integreiddio’r system ePMA ar draws ein safleoedd ysbytai.” 

Dywedodd Dr Lesley Hewer, Cadeirydd Rhaglen Genedlaethol ePMA IGDC: “Mae’n wych gweld BIP Hywel Dda yn ymuno â’r byrddau iechyd eraill yng Nghymru sydd wedi arwyddo contractau gyda’u cyflenwyr rhagnodi electronig.  

“Mae’r effaith gadarnhaol ar ddiogelwch cleifion yn cynnwys galluogi staff i ymateb yn gyflymach i angen claf am feddyginiaeth briodol. Mae gan ePMA lawer o nodweddion diogelwch cleifion ychwanegol, ac un ohonynt fydd anfon rhybudd at staff i wirio unrhyw ryngweithiadau meddyginiaeth. Mae hefyd yn anelu at leihau’r defnydd o bapur.”  

Dywedodd Adrian Aggett, Cyfarwyddwr Cleientiaid Better: “Rydym yn falch o bartneru â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ein pedwerydd bwrdd iechyd yng Nghymru, ar ôl Betsi Cadwaladr, Powys ac Aneurin Bevan. Mae’r momentwm parhaus hwn ledled Cymru yn adlewyrchu ymrwymiad a rennir i wella sut mae meddyginiaeth yn cael ei rheoli. Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi Hywel Dda a’u timau ar eu taith ddigidol a chyfrannu at ofal gwell i’w cleifion.” 

Mae’r rhaglen ePMA genedlaethol yn cael ei chefnogi a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae’n rhan o’r trawsnewidiad digidol sy’n digwydd ledled Cymru i wella gofal a thriniaeth.  

Dywedodd Prif Swyddog Fferyllol Cymru, Andrew Evans: “Mae’r newid i ragnodi digidol ar draws pob ysbyty a maes gofal sylfaenol yn helpu i gynyddu cynhyrchiant yn y GIG ac yn arwain at welliannau pellach yn y defnydd diogel ac effeithiol o feddyginiaethau. 

“Mae cyhoeddiad heddiw y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cyflwyno ePMA yn cyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithredu rhagnodi electronig yn llawn yng Nghymru.” 

Mae BIP Hywel Dda yn gwasanaethu poblogaeth o dros 385,000 o bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. 

 

Llun, o'r chwith i'r dde: Helena Dunne, Lead Pharmacist for Digital Medicines Management Systems; Iain Mackintosh, Senior Digital Project Manager; Gemma Brown, E-Prescribing Nurse Facilitator

Share: