4 Mehefin 2021
Mae ffordd ddigidol, newydd sbon o weithio wedi’i chyflwyno ar gyfer nyrsys a staff eraill ysbytai yng Nghymru. Mae hyn yn nodi adeg bwysig yn hanes nyrsio – un a fydd yn newid arferion gweithio yn gyfan gwbl i nyrsys ac aelodau eraill o’r timau amlddisgyblaethol yng Nghymru.
Mae system newydd, sef Cofnod Gofal Nyrsio Cymru, yn trawsnewid dogfennau nyrsio drwy safoni ffurflenni, a’u trosi o fformat papur i fformat digidol. Am y tro cyntaf erioed, bydd nyrsys yn gallu cwblhau asesiadau wrth ochr gwely cleifion ar lechen symudol, neu ar ddyfais llaw arall, gan arbed amser, gwella cywirdeb a lleihau dyblygu.
Bydd data o Gofnod Gofal Nyrsio Cymru yn cael eu defnyddio i sicrhau datblygiadau mewn dysgu ar draws sefydliadau mewn iechyd a gofal yng Nghymru er mwyn gwella canlyniadau a phrofiadau cleifion. Bydd y system newydd yn gwella effeithlonrwydd, gwerth a phrydlondeb gofal, gyda’r nod o wella diogelwch cleifion.
Bydd cleifion a staff yn gallu symud ar draws gwasanaethau yng Nghymru drwy ddefnyddio system Cofnod Gofal Nyrsio Cymru sengl, gan sicrhau cysondeb a chywirdeb. Pan fydd claf yn cael ei ryddhau o’r ysbyty, bydd asesiadau digidol a gwblheir gan nyrsys a oedd yn gofalu amdano/amdani ar gael ar y cofnod cleifion digidol cenedlaethol, sef Porth Clinigol Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd yr wybodaeth yn dilyn y claf lle bynnag y bydd yn derbyn gofal yng Nghymru.
Mae’r prosiect wedi cynnwys nyrsys ac aelodau o dimau amlddisgyblaethol o bob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth yng Nghymru, gan gydweithio dros gyfnod o dair blynedd i safoni’r ffurflenni ac i greu’r broses ddigidol newydd. Mae Arweinydd Nyrsio Clinigol bellach wedi’i gyflogi/chyflogi ym mhob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth i arwain y gwaith o gyflwyno’r dogfennau newydd.
Meddai Claire Bevan, yr Uwch Berchennog Cyfrifol ar gyfer y prosiect: “Hoffwn ddiolch i dîm y prosiect a’r holl nyrsys ac aelodau o’r grwpiau amlbroffesiynol ehangach ar draws iechyd a gofal yng Nghymru sydd wedi llywio’r gwaith o safoni dogfennau nyrsio, a hynny drwy eu grwpiau cyfeirio arbenigol.
Mae’r rhain wedi’u digideiddio gan y datblygwyr arbenigol medrus i ddylunio Cofnod Gofal Nyrsio Cymru, drwy wrando ar nyrsys i sicrhau ei fod yn addas i’w ddefnyddio mewn amgylcheddau gofal oedolion.”
Dechreuodd y gwaith o gyflwyno’r dogfennau ar-lein newydd ym mis Ebrill yng Nghymuned De Sir Benfro, Castell-nedd Port Talbot, Canolfan Ganser Felindre ac Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg. Mae Castell-nedd Port Talbot, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn paratoi i fynd yn fyw ddechrau’r haf, ac mae sefydliadau eraill yn paratoi i’w rhyddhau yn ddiweddarach yn 2021, gan gyd-fynd â gweithgareddau lleol.