Neidio i'r prif gynnwy

Ceisiadau profion FIT digidol newydd yn gwella'r gwasanaeth i gleifion

Ymarferydd meddygol yn edrych trwy ficrosgop

 

 

 

Dywedodd yr Athro John Geen, Biocemegydd Clinigol Ymgynghorol ac Arweinydd Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf: “Mae cydweithio rhwng y pedwar sefydliad wedi optimeiddio swyddogaethau’r systemau TG cenedlaethol sydd ar gael. Mae hyn wedi cynnig buddion sylweddol o ran adnoddau amser i’r staff clinigol sy’n gwneud ceisiadau ac i’r gwasanaethau labordy, ond yn bwysicaf oll, mae’n gwella mynediad i gleifion at y prawf pwysig hwn.”

Ychwanegodd Gareth Powell, Pennaeth Gwasanaethau Labordy yn Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae Labordy Sgrinio ICC wedi bod yn falch iawn o fedru cydweithio mor effeithiol â’n cydweithwyr yn IGDC, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a thîm biocemeg glinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Rydym wedi llwyddo i ddatblygu system ETR sy’n ddiogel, yn effeithiol ac sy’n cyflwyno gwelliannau sylweddol i wasanaethau i BIPAB, BIPCTM ac ICC, gyda chefnogaeth amhrisiadwy gan y tîm cofnod prawf sengl yn IGDC, a hoffem ddiolch i’n holl gydweithwyr a fu’n rhan o’r prosiect hwn.”

Dywedodd Carley Goaman, Rheolwr Prosiect, Cofnod Sengl, IGDC, “Yn y gorffennol, bu llawer o broblemau gyda’r hen broses o wneud cais ar bapur, gyda gwybodaeth yn cael ei cholli a gwybodaeth cleifion yn cael ei thrawsgrifio’n anghywir, a allai arwain at gael eu gwrthod gan y labordy. Mae’r prosiect i gyflwyno’r broses newydd hon wedi bod yn llwyddiant mawr ac mae’r cydweithio rhwng tîm Cofnod Sengl IGDC, tîm gwasanaethau gwybodaeth IGDC, ICC, BIP Cwm Taf Morgannwg a BIP Aneurin Bevan wedi bod yn allweddol i’r llwyddiant.”

Dilynwch ni: