13 Medi 2021
Heddiw mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn anrhydeddu Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd, menter Sefydliad Iechyd y Byd sy’n hyrwyddo ymwybyddiaeth, ymgysylltiad a gweithredu mewn perthynas â diogelwch cleifion.
Eleni, y thema yw gofal mamau a babanod newydd-anedig, gyda sefydliadau ledled y byd yn amlygu pwysigrwydd gofal a diogelwch i famau a’u babanod.
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gwella gofal diogel i gleifion trwy systemau Cymru gyfan megis y Porth Clinigol Cymru (WCP). Mae WCP yn cadw gwybodaeth iechyd cleifion yn gywir ac effeithlon mewn un cofnod unigol y gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gael mynediad ato mewn amryw o leoliadau gofal. Mae hyn yn golygu fod gan y gwahanol roddwyr gofal y mae claf yn dod ar eu traws ar hyd ei lwybr iechyd wedi’u hysbysu o wybodaeth iechyd diweddar, cywir a manwl y claf - hyd yn oed pan fydd y claf yn symud rhwng byrddau iechyd.
Er enghraifft, pan gaiff baban ei drosglwyddo rhwng byrddau iechyd i Uned Gofal Arbennig Babanod (SCBU), bydd yr wybodaeth a gofnodir amdano yn ei ysbyty blaenorol - megis canlyniadau profion gwaed - ar gael i’r rhoddwyr gofal newydd ym Mhorth Clinigol Cymru (WCP).
Mae hyn yn golygu nad oes angen ail-wneud profion gwaed, sydd o fantais clinigol enfawr i fabanod Uned Gofal Arbennig Babanod y mae llawer ohonynt wedi’u geni cyn eu hamser neu sy’n eithriadol o agored i niwed. Yn ogystal, mae’n gwneud y profiad yn llai o straen i’w rhieni ac ni fydd angen iddynt wylio gwaed yn cael ei gasglu o’u baban nifer o weithiau.
Bydd cofnod WCP claf yn cynnwys ei ddogfennau clinigol, llythyrau a nodiadau hefyd fel y bydd gan bob rhoddwr gofal - o nyrsys ac ymgynghorwyr meddygol, i fferyllwyr a radiolegwyr - y mae claf yn dod ar eu traws ei gofnod o hanes meddygol ar flaenau eu bysedd.
Mae hyn yn golygu y gall y gweithwyr proffesiynol hynny wneud gwell penderfyniadau ar sail gwybodaeth am ofal babanod Uned Gofal Arbennig Babanod, a gallai hyn arwain at leihau’r amser y mae angen iddyn nhw dreulio yn yr ysbyty. Yn ychwanegol at hyn, mae’n golygu y bydd gwelyau ar gael yn gynt fel y gall babanod eraill sy’n ddifrifol wael a’u rhieni gael eu trosglwyddo i’r Uned Gofal Arbennig Babanod a chael gofal sy’n arbed bywydau yn nes at y cartref.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Diogelwch Cleifion y Byd 2021 ar wefan Sefydliad Iechyd y Byd.