Neidio i'r prif gynnwy

Canmoliaeth uchel i Iechyd a Gofal Digidol Cymru yng Ngwobrau Go Wales

10 Tachwedd 2022

 

Derbyniodd tîm caffael IGDC canmoliaeth uchel yng Ngwobrau Go Cymru yn y categori caffael cydweithredol, am eu gwaith ar Gytundeb Menter Microsoft Cymru Gyfan.

Mae gwobrau Go yn dathlu llwyddiannau caffael o bob rhan o sefydliadau sector cyhoeddus, preifat a thrydydd sector Cymru. Canmolwyd tîm Iechyd a Gofal Digidol Cymru am ei waith gyda byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i sicrhau cytundeb pum mlynedd i ddarparu’r cynhyrchion, offer a gwasanaethau Microsoft diweddaraf i GIG Cymru. 

Dywedodd Matthew Perrott, yr Uwch Arweinydd Caffael, “Cafodd y tîm negodi ei gefnogi gan arweinwyr digidol, cyllid a thechnegol o bob rhan o Gymru, a hebddynt ni fyddai’r fargen wedi bod yn bosibl. Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth am eu holl amser, ymdrechion ac ymddiriedaeth wrth weithio gyda thîm Gwasanaethau Masnachol Iechyd a Gofal Digidol Cymru i sicrhau canlyniad o safon fyd-eang.”