1 Tachwedd 2022
Cytunwyd ar gontract fframwaith ar gyfer e-ragnodi a gweinyddu meddyginiaethau newydd a gwell mewn ysbytai. Bydd dyfarnu'r contract yn galluogi ysbytai yng Nghymru i osod y dechnoleg ddigidol ddiweddaraf ar gyfer rhagnodi a rheoli'r broses o weinyddu meddyginiaethau.
Mae'n golygu y bydd cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, dros amser, yn sylwi ar welliannau yn y modd y rheolir gwybodaeth am feddyginiaethau a meddyginiaethau cleifion. Mae gan y fframwaith opsiwn o dri chyflenwr i fyrddau iechyd ddewis ohonynt, ac mae ar gael o fis Tachwedd 2022.
Wrth siarad mewn cyfarfod bwrdd arbennig yr wythnos diwethaf pan gymeradwywyd y contract, dywedodd Simon Jones, Cadeirydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru,
“Mae hon yn garreg filltir enfawr yn natblygiad trawsnewid digidol a bydd canlyniad y gwaith hwn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol iawn ym maes gofal eilaidd. Mae hwn yn gam mawr yn narpariaeth y rhaglen meddyginiaethau digidol.”
Mae’r Rhaglen Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau Gofal Eilaidd yn Electronig yn rhan o’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol sy’n gwneud y gwaith o ragnodi, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau ym mhobman yng Nghymru yn haws, yn fwy diogel, yn fwy effeithlon ac effeithiol, drwy ddull digidol.