Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd Marilyn Bryan-Jones aelod Bwrdd Annibynnol Iechyd a Gofal Digidol Cymru ei chanmol am ei chyfraniadau at gydraddoldeb hiliol a chynhwysiant

20 Hydref 2022

Mae Marilyn Bryan-Jones, a benodwyd yn Aelod Bwrdd Annibynnol Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn ddiweddar, wedi ennill gwobr yng Ngwobrau Cymunedol Cenedlaethol Hanes Pobl Dduon 2022 am ei chyfraniadau at gydraddoldeb hiliol a chynhwysiant.  

Mae Hanes Pobl Dduon Cymru yn ymgysylltu, yn addysgu ac yn grymuso unigolion, grwpiau cymunedol a chymunedau ledled Cymru i gydnabod a gwerthfawrogi’r cyfraniad a wnaed gan bobl Dduon yn hanes datblygiad economaidd a diwylliannol Cymru. Ei nod gwreiddiol oedd dathlu pobl o dras Caribïaidd ac Affricanaidd, ond bellach mae hyn wedi’i ymestyn i gynnwys pob cymuned Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.  Mae hefyd yn caniatáu i’r gymuned ehangach i gymryd rhan, dysgu a dathlu gyda’i gilydd i hyrwyddo dealltwriaeth a rhannu ein hanes byd-eang.

Enwebwyd Marilyn gan yr Athro Uzo lwobo am ei hymrwymiadau gwirfoddol a chyflogedig. Mynychodd y seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd, a dywedodd,

“Rwyf wrth fy modd fy mod wedi ennill y wobr. Mae ystyried Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ffordd o fyw ac nid yn rôl.  Rwy’n credu y dylai trin pobl yn deg fod yn hawl ac nid yn fraint a dylai chynhwysiant fod yn nod yn y pen draw.”

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn falch iawn bod Marilyn yn rhan o’r Bwrdd a bydd yn sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth galon/wraidd y sefydliad.