Neidio i'r prif gynnwy

Blog y Cadeirydd: Myfyrdodau o'r Uwchgynhadledd Ddigidol

6 Hydref 2022

 

Simon Jones, Cadeirydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Yr wythnos diwethaf, gwnaethom gynnal uwchgynhadledd ddigidol ar y cyd gyda Cwmpas a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Roedd yn archwilio sut y gall y sector cyhoeddus sicrhau cynhwysiant mewn arloesi digidol yn llawer gwell a hynny drwy weithio gyda a thrwy’r sector gwirfoddol.

Rwyf wedi bod yn myfyrio ar rai negeseuon a materion allweddol a greodd argraff arnaf i.

Yn gyntaf, ac efallai yn fwyaf amlwg, mae nifer sylweddol o bobl nad oes ganddynt fynediad at y we, yn enwedig pobl hŷn, sef y rhai sydd hefyd yn defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal yn fwy na gweddill y boblogaeth.  Gosododd Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yr her na ddylai’r un datblygiad digidol newydd beri anfantais i’r rhai nad oeddent eisiau ei ddefnyddio neu nad oedd yn gallu ei ddefnyddio.

Cafodd hyn ei gefnogi’n gryf gan Huw Owen o Gymdeithas Alzheimer, a awgrymodd y dylai fod gan bobl yr hawl i ddewis rhwng cael mynediad at ofal a chymorth yn ddigidol ai peidio, a bod yn rhaid cael canlyniad teg ni waeth beth fo’u dewis.

Yn llai amlwg, disgrifiodd Arielle Tye o Promo Cymru i ni y gwaith a gwblhaodd gyda grŵp o ddisgyblion chweched dosbarth wrth ddatblygu cymhwysiad digidol i roi mynediad at gyngor a chymorth am iechyd rhywiol.  Grŵp o bobl y byddech yn disgwyl iddynt fod yn ddeallus iawn yn y byd digidol ac wedi hen arfer â chael gwybodaeth a chyngor yn ddigidol.  Er hyn, methodd y grŵp â sylwi ar ddarn pwysig o wybodaeth a gafodd ei ddarparu’n ddigidol.  Y wers yw bod dyluniad rhyngwyneb digidol mor hanfodol bwysig i’r rhai sy’n defnyddio cynnwys digidol o hyd ag y mae i’r rhai nad ydynt, ac mae canlyniad peidio â sicrhau bod rhyngwyneb wedi’i ddylunio’n ofalus yr un fath i’r ddau.

Roedd dylunio cymwysiadau digidol a oedd yn canolbwyntio ar y defnyddiwr yn thema a oedd yn rhedeg drwy’r uwchgynhadledd. Aeth Myra Hunt o’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol â ni drwy rai nodweddion hanfodol gwasanaeth digidol wedi’i ddylunio’n dda, sydd â defnyddwyr yn ganolog iddo.  Roedd hon yn thema y soniodd Scott Tandy o Gymdeithas Tai Newydd amdani hefyd. Dywedodd wrthym sut y gwnaeth ‘hac digidol’ yn GIG Cymru ei helpu i ddod o hyd i ddatrysiad i denantiaid hŷn a oedd yn cael mynediad at ystod eang o weithgareddau a chymorth drwy ddefnyddio eu setiau teledu ar ôl gosod dyfais syml arnynt.  Y wers oedd nad oedd pob datrysiad digidol yn gymhleth a bod cyfleoedd enfawr drwy osod elfen ddigidol ar ddyfeisiau eraill y mae pobl yn gyfforddus ac yn hyderus iawn yn eu defnyddio.

Wrth gyflwyno mentrau penodol a chymwysiadau digidol arloesol, ymysg llawer o bethau eraill, dangosodd ein cydweithwyr o’r sector gwirfoddol un nodwedd gyffredin amlwg  Nid oes yn rhaid i ddatrysiadau fod yn rhai drud iawn.  Dywedodd Marc Davies a Jenny Phillips o Cwmpas wrth y gynulleidfa am brosiect yr oeddent yn ei redeg gan ddefnyddio swm cymharol fach o arian gan Lywodraeth Cymru a oedd, drwy fuddsoddiadau unigol bach mewn pecyn digidol, wedi galluogi pobl i gael mynediad at ystod lawn o gymorth, cyngor a chyswllt â theulu a ffrindiau. Ni fyddent wedi gallu gwneud hynny fel arall.

Cododd llwyddiant yr arloesiadau digidol cymharol rad a bach hyn her sylfaenol sy’n aml yn gyffredin iawn. Sut mae’r math hwn o arfer gorau yn dod yn rhan o raglenni prif ffrwd ac, yn fwy pwysig byth, sut mae’n denu cyllid cynaliadwy y tu hwnt i gyllid prosiect?

Canolbwyntiodd Sally Lewis o’r Ganolfan Gwerth mewn Iechyd ein sylw ar agwedd bwysig arall o’r chwyldro digidol mewn iechyd a sut i sicrhau cynhwysiant.  Mae angen i glinigwyr, beth bynnag fo’u rôl, ymgysylltu’n llawn â datblygiadau digidol gan fod yn hyderus ar yr un pryd nad yw rhyngweithio dynol, sy’n parhau i fod wrth wraidd eu gwasanaethau proffesiynol, yn cael ei beryglu na’i ddiystyru gan ymyriadau digidol newydd yn y berthynas rhyngddynt hwy a’u cleifion.

Hyd yn hyn, dyluniwyd llawer o arloesiadau digidol mewn iechyd a gofal i gefnogi gweithwyr iechyd proffesiynol yn y ffordd maent yn darparu gwasanaethau i bobl a chleifion.  Dywedodd Matt Cornish, sy’n arwain ar ddatblygiad Ap GIG Cymru yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru, wrthym am sut yr oedd hyn i gyd ar fin newid yn sgil lansiad yr Ap dros y misoedd i ddod.  Dywedodd am yr ymdrechion a wnaed i gyflawni’r ymgysylltiad gorau posibl gan ddefnyddwyr a chydnabyddiaeth na ellir cael ymagwedd ‘mae wedi’i ddatrys’, gan y bydd rhagor y gellir ei wneud o hyd i gyflawni cynwysoldeb.

Nodwyd hyn yn y sesiwn banel ar ddiwedd yr uwchgynhadledd, mewn perthynas â grwpiau penodol o bobl sy’n rhannu nodwedd megis nam ar y golwg ac yn ehangach.  Archwiliodd y panel hefyd sut i reoli’r newid mawr sy’n cael ei ysgogi gan ddatblygiad digidol, sut i osod defnyddwyr wrth wraidd gwasanaethau, cymhlethdod sicrhau bod datblygiadau newydd yn gweithio ochr yn ochr â systemau digidol presennol a sut mae mynd i’r afael â newid mewn diwylliant yn mynd at graidd newid llwyddiannus yn seiliedig ar arloesi digidol.

Wrth gyflwyno’r uwchgynhadledd, dywedais wrth bobl am fy uchelgeisiau personol a’m huchelgeisiau ar gyfer Iechyd a Gofal Digidol Cymru, a’r rhan fach yr oeddwn yn gobeithio y gallwn ei chwarae wrth beidio â chreu ail ddeddf gofal gwrthgyfartal ôl-ddigidol – ac wrth sicrhau nad y rhai y mae angen gofal a chymorth arnynt fwyaf yw’r rhai sy’n cael y mynediad gwaethaf.

Mae angen i ni newid ein ffordd o feddwl, o geisio osgoi’r canlyniad anfwriadol bod arloesi digidol yn achosi rhagor o allgau i ffordd o feddwl sy’n seiliedig ar y canlyniad bwriadedig, sef bod arloesi digidol yn arwain at well cynhwysiant.