Neidio i'r prif gynnwy

Andrew Evans, y Prif Swyddog Fferyllol yn gweld Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig ar waith

31 Gorffenaff 2024

Ymwelodd Andrew Evans, Prif Swyddog Fferyllol Cymru, â phractis meddyg teulu a fferyllfa yng Nghaerffili heddiw i ddarganfod sut mae’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) o fudd i gleifion a staff gofal iechyd.

Ymwelodd Andrew Evans â Meddygfa’r Pentref a Fferyllfa Well yn Llanbradach i weld effaith EPS, sydd wedi bod ar gael yma ers y gwanwyn. Ymunodd Jenny Pugh-Jones ag ef, sef Cadeirydd y rhaglen EPS Gofal Sylfaenol yng Nghymru, a Mark Allen, Arweinydd Fferylliaeth Gymunedol yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC), sy’n arwain y gwaith o gyflwyno’r gwasanaeth ledled Cymru.

Mae presgripsiynau electronig yn caniatáu i feddygon teulu a phresgripsiynwyr eraill anfon presgripsiynau'n ddiogel i'r fferyllfa gymunedol o ddewis y claf. Mae EPS yn gwneud pethau'n haws, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon i gleifion a staff gofal iechyd ac mae hefyd yn dda i'r amgylchedd oherwydd, yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes angen argraffu'r ffurflen papur gwyrdd mwyach a mynd â hi i'r fferyllfa.

Dywedodd y Prif Swyddog Fferyllol: “Rwy’n falch iawn o weld drosof fy hun sut mae’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig eisoes o fudd i gleifion, meddygon teulu a fferyllwyr yn Llanbradach.

“Mae'r gwasanaeth yn gwella cyfleustra i gleifion ac yn cynyddu effeithlonrwydd yn y feddygfa a'r fferyllfa, gan leihau biwrocratiaeth a rhyddhau mwy o amser i glinigwyr dreulio yn helpu cleifion. Mae dileu’r angen am bresgripsiynau papur yn galluogi fferyllwyr i gynnig mwy o wasanaethau clinigol, gan wella mynediad i gleifion a thynnu pwysau oddi ar rannau eraill o’r GIG.

“Mae cyflwyno’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yn cefnogi’r gwaith o drawsnewid rôl fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at ei weld yn parhau i bob rhan o Gymru.” 

Dywedodd Jenny Pugh-Jones: “Rwy'n falch iawn o ymuno â Mr Evans yn Llanbradach heddiw i weld y manteision gwirioneddol y mae EPS yn eu rhoi i gleifion yng Nghymru. Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda phractisiau meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol i wneud EPS yn realiti. Mae nifer cynyddol o safleoedd bellach yn fyw ledled Cymru a mwy i ddod.

“Mae staff yn dweud wrthym fod EPS yn rhyddhau mwy o amser er mwyn gofalu am gleifion ac yn eu galluogi i olrhain lleoliad presgripsiwn ar unrhyw adeg. Rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno EPS ar draws Cymru gyfan mor gyflym a diogel â phosibl.”

Lansiwyd y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yn y Rhyl, Sir Ddinbych, y llynedd. Mae’n cael ei gyflwyno fesul cam wrth i fferyllfeydd a meddygfeydd teulu ddod yn barod i ddechrau defnyddio’r gwasanaeth.

Mae EPS yn rhan allweddol o Moddion Digidol, rhaglen drawsnewid a reolir gan IGDC, sy'n gwneud y broses o bresgripsiynu a dosbarthu meddyginiaethau yn fwy diogel, haws a mwy effeithlon i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

 

Capsiwn llun, o'r chwith i'r dde: Meddyg Teulu Meddygfa'r Pentref Dr Toby Skellern, Arweinydd EPS Fferyllfa Well Charlotte Corrigan, Rheolwr Rhanbarthol Fferyllfa Well Sam Ghafar, Prif Swyddog Fferyllol Cymru Andrew Evans, Dirprwy Brif Swyddog Fferyllol Cymru Emma Williams a Chadeirydd EPS Gofal Sylfaenol yng Nghymru Jenny Pugh-Jones