Mawrth 27 2024
Rhyddhawyd bron i 26,000 o apwyntiadau meddygon teulu ym mis Chwefror yn unig, gan ddiolch i wasanaeth digidol sydd ar gael i bob fferyllfa ledled Cymru.
Mae’r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin yn cefnogi fferyllfeydd cymunedol i ddarparu gwasanaethau i gleifion ledled Cymru a’i nod yw rhyddhau apwyntiadau meddyg teulu i bobl ag anghenion mwy cymhleth.
O dan y cynllun, gellir cynnig triniaeth a chyngor am ddim ar gyfer 27 o gyflyrau cyffredin gan gynnwys dolur gwddf, colig a brech yr ieir.
Mae'n rhan o wasanaeth ehangach Dewis Fferyllfa - cymhwysiad digidol a ddatblygwyd gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) sy'n galluogi fferyllwyr i gael mynediad at gofnodion meddygol cryno cleifion a rhannu manylion ymgynghoriadau fferylliaeth â meddygon teulu cleifion yn ddigidol.
Mae data gan IGDC yn datgelu bod 25,834 o apwyntiadau meddygon teulu, 12 o ymweliadau i adannau damweiniau ac achosion brys a 264 o apwyntiadau meddygon teulu y tu allan i oriau wedi’u rhyddhau ledled Cymru ym mis Chwefror 2024 oherwydd bod cleifion wedi cyrchu’r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin yn lle.
Lansiwyd y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin yn 2013 fel platfform i alluogi fferyllwyr cymunedol i gofnodi ymgynghoriadau, rhannu gwybodaeth, a darparu triniaeth ar gyfer amrywiol anhwylderau cyffredin.
Yn sgil llwyddiant y cynllun, datblygodd o’i ddiben gwreiddiol o gynnal y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin i alluogi adolygiad o feddyginiaethau digidol, brechiadau ffliw tymhorol, cyflenwi meddyginiaethau brys a darparu dulliau atal cenhedlu brys a phontio.
Fel rhan o hynny, mae’r rhan fwyaf o fferyllfeydd ledled Cymru bellach yn cynnig gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddf, gan ddarparu asesiad clinigol i gleifion a thriniaeth addas os oes angen – yn rhad ac am ddim.
Mae Dewis Fferyllfa wedi datblygu’n barhaus dros y deng mlynedd diwethaf ac mae IGDC yn gweithio gyda defnyddwyr i ddeall sut gall y platfform fynd ymhellach i ddiwallu anghenion cleifion a thimau fferylliaeth gymunedol yn barhaus.
Dywedodd Dan Hallett, rhagnodwr mewn fferyllfa annibynnol yng Nghaerdydd ac arweinydd clinigol rhan-amser gyda IGDC: “Y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin bellach yw conglfaen y contract fferylliaeth. Drwy'r platfform galla i gael mynediad at lawer iawn o wybodaeth sy'n helpu fy mhenderfyniad clinigol, gan gynnwys crynodeb o gofnodion meddyg teulu'r claf.
“Galla i gael llythyr cyngor rhyddhau electronig sy'n fy ngalluogi i neu fy nhechnegydd i ddarparu’r adolygiad o feddyginiaethau rhyddhau sy’n cynnwys manylion meddyginiaeth y claf pan gaiff ei ryddhau o’r ysbyty – fel y gallwn ni sicrhau nad oes unrhyw broblemau parhaus neu faterion o ran eu meddyginiaeth.
“Gall fferyllwyr ddarparu triniaeth a chyngor ar gyfer ystod eang o symptomau o dan y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin – yn aml heb fod angen apwyntiad.”