Yn 2023, newidiwyd Pecyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth Cymru yn blatfform pwrpasol newydd. Rhaid i bob defnyddiwr y Pecyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth gofrestru ar gyfer cyfrif newydd ar y platfform.
Am y tro cyntaf, bydd sawl defnyddiwr yn gallu cyrchu Pecyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth sefydliadau. Bydd y ffordd mae defnyddwyr yn cofrestru i gyrchu’r Pecyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth yn dibynnu ar y math o fynediad defnyddiwr sydd ganddynt. Gweler isod esboniad o’r mathau gwahanol o ddefnyddwyr.
Noder, rhaid creu pob sefydliad yn y platfform cyn y gall unrhyw fath o ddefnyddiwr gofrestru a chael mynediad ato. Os na allwch ddod o hyd i’ch sefydliad, cysylltwch â Thîm Pecyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth Cymru.
Gweler y Canllaw i Ddefnyddwyr am ragor o wybodaeth.