Isod mae ein cwestiynau cyffredin, a allai fod o gymorth i chi. Gallwch gyrchu ein fideos hyfforddi byr a’r Canllawiau i Ddefnyddwyr drwy ein tudalen we Cymorth ac Adnoddau.
Cofrestru
Sut ydw i’n cofrestru?
Cyrchwch Becyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth Cymru ar blatfform Caforb. Unwaith y byddwch ar y dudalen hafan, cliciwch ar y botwm ‘register’ glas ar ochr dde’r blwch a chwblhau’r manylion yn ôl yr angen.
Sut mae sefydlu defnyddwyr eraill er mwyn cyrchu Pecyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth Cymru?
Gall Gweinyddwyr Sefydliad sefydlu defnyddwyr eraill yn y platfform. Ar ôl mewngofnodi, cliciwch ar ‘organisation management’ ar ochr chwith y dudalen. O dan y tab ‘user’, cliciwch ar y botwm ‘create user’ gwyrdd, llenwi’r manylion a chlicio ar y botwm ‘create’. Yna bydd y defnyddiwr yn derbyn e-bost gyda dolen i gyrchu’i gyfrif a gosod ei gyfrinair.
Oes modd newid cyfrif darllen yn unig i ddefnyddiwr yn ddiweddarach?
Oes, o dan ‘Organisation Management’, gallwch glicio ar y defnyddiwr ac o dan ‘role’, gallwch ei newid i ‘user’ neu ‘read only access’ gan ddefnyddio’r blwch cwymplen. Dim ond Gweinyddwr y Sefydliad all gwblhau’r cam hwn.
Cyfrineiriau
Sut mae ailosod fy nghyfrinair?
Os ydych chi wedi anghofio’ch cyfrinair, gallwch glicio ar y ddolen ‘forgot password’ o dan y blwch ‘log in’. Yna caiff e-bost ei anfon ac yna gallwch ailosod eich cyfrinair. Gwiriwch eich ffolder mewnflwch sothach rhag ofn iddo gael ei anfon yno. Byddwch yn ymwybodol mai dim ond unwaith bob 24 awr y gallwch newid eich cyfrinair.
Sut ydw i’n newid cyfrinair defnyddiwr?
Dim ond gweinyddwr y sefydliad all ofyn am newid cyfrinair, er enghraifft, am resymau diogelwch. I wneud hyn, bydd angen i chi glicio ar ‘portal management’ ar ochr chwith y dudalen a dod o hyd i’r defnyddiwr. Ar yr ochr dde bydd botwm ‘edit’ glas. Cliciwch ar y blwch cwymplen bach a dewis ‘reset password’.
Llywio adran y dangosfwrdd
Sut ydw i’n adolygu fy nghynnydd?
Gallwch adolygu eich cynnydd o dudalen y dangosfwrdd. Bydd hyn yn dangos pob adran sydd naill ai wedi’i chwblhau neu sydd wrthi’n cael ei chwblhau. Gallwch hefyd weld eich cynnydd ar ôl i chi fewngofnodi. Ar y dudalen lle rydych chi’n lansio’ch ffurflen, fe welwch chi far cynnydd sy’n nodi canran eich cynnydd.
A allaf lawrlwytho ac argraffu’r adroddiad fel PDF?
Ar y botwm lansio, cliciwch ar y saeth cwymplen a chlicio ar ‘view’. Yna bydd eich adroddiad yn ymddangos yn y ffenestr, gan roi’r opsiwn i chi ar y gwaelod naill ai lawrlwytho neu argraffu eich adroddiad. Gallwch hefyd argraffu’r ffurflen o’r dangosfwrdd ar yr ochr chwith. Cliciwch ar y botwm ‘reports’ a naill ai argraffu neu lawrlwytho’ch adroddiad.
Sut ydw i’n gweld rhybuddion heb eu darllen?
Bydd cylch coch sy’n arddangos ar y botwm ‘alerts’ ar yr ochr chwith yn dangos a oes yna rybuddion heb eu darllen. Cliciwch ar y botwm ‘alerts’ a bydd hyn yn dangos y rhybuddion heb eu darllen a restrir.
Sut alla i ddarllen rhybudd os ydw i wedi’i golli ar ddamwain?
Os cliciwch ar y groes ar y rhybudd ar ddamwain, gallwch ei gyrchu o hyd. Ar yr ochr chwith, cliciwch ar y botwm ‘alerts’ glas.
Sut mae dechrau cwblhau Pecyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth Cymru?
Yn yr adran ‘forms’ fe welwch y ffurflen ‘Pecyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth Cymru’, ac ochr yn ochr â hynny bydd manylion eich practis. Cliciwch ar y botwm ‘launch’ glas ar yr ochr dde. Bydd y ffurflen yn ymddangos gyda phob adran i’w chwblhau.
Cyrchu’r adrannau
A yw’n trosglwyddo atebion blaenorol?
Bydd eich atebion o’r hyn y gwnaethoch chi’i gyflwyno’r flwyddyn flaenorol yn cael eu trosglwyddo i’r hyn rydych chi’n ei gyflwyno’r flwyddyn gyfredol. Cyfrifoldeb Gweinyddwr y Sefydliad yw adolygu’r atebion hyn a’r dystiolaeth wedi’i lanlwytho’n flaenorol er mwyn sicrhau eu bod yn gywir o hyd ac nad oes angen newid neu adolygu’r dogfennau. Yna bydd gofyn i chi gwblhau pob adran drwy glicio ar ‘declaration control’ ar waelod y dudalen i gadarnhau eich bod wedi derbyn eich atebion a’ch tystiolaeth ar gyfer yr adran honno.
Oes angen i mi lanlwytho tystiolaeth, neu a allaf nodi ble mae hi’n cael ei chadw yn y blwch ‘alternative description’?
Rydym yn annog sefydliadau i lanlwytho tystiolaeth lle y bo modd, ond nid yw hyn yn orfodol. Os dewiswch beidio â gwneud hynny neu os nad yw hyn yn bosibl (er enghraifft, os mai dim ond ar ffurf ffisegol y mae’r dystiolaeth ac nad yw’n bosibl ei sganio), gallwch ddefnyddio’r blwch ‘alternative description’ i nodi ble gellir dod o hyd i’r dystiolaeth. Mae defnyddiau priodol eraill o’r blwch ‘alternative description’ yn cynnwys dolenni i’r dystiolaeth ar wefan neu dudalen fewnrwyd y sefydliad.
Sut mae dileu neu olygu’r blwch ‘alternative description’ o Becyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth Cymru?
Er mwyn dileu testun yn y blwch ‘alternative description’, cliciwch yn y blwch a dileu’r testun wedi’i ysgrifennu. Gallwch hefyd olygu eich testun yn y blychau hyn.
Sut ydw i’n dileu tystiolaeth sydd wedi’i lanlwytho o’r blaen?
Cliciwch ar y botwm ‘choose file’. Bydd botwm dad-ddewis coch wrth ymyl y ddogfen rydych chi wedi’i lanlwytho. Cliciwch i ddad-ddewis y ffeil a bydd hyn yn dileu’r ffeil.
Sut ydw i’n dewis ffeil rydw i wedi’i lanlwytho o’r blaen fel tystiolaeth?
Cliciwch ar ‘choose file’. Cliciwch ar ‘choose existing’ ar yr ochr chwith. Yna bydd hyn yn cyflwyno hyd at bum dogfen flaenorol rydych chi wedi’u lanlwytho fel tystiolaeth arall. Dewiswch ba ffeil sydd ei hangen arnoch a chlicio ar y botwm ‘select’ gwyrdd. Os nad yw’r ddogfen ymhlith y pum dogfen flaenorol rydych chi wedi’u lanlwytho, gallwch chwilio amdani. Cliciwch ar y bar chwilio uwchben y rhestr o ddogfennau a theipio teitl y ddogfen rydych chi’n chwilio amdani neu air allweddol.
Oes modd i fwy nag un defnyddiwr gyrchu’r asesiadau a’u diweddaru?
Oes, mae modd i fwy nag un person gyrchu’r pecyn cymorth ar yr un pryd. Ni allwch weithio ar yr un adran ar yr un pryd.
Sut ydw i’n gwybod a yw defnyddiwr arall yn cwblhau adran benodol?
Os oes mwy nag un defnyddiwr wedi mewngofnodi, gall pob un gwblhau adrannau gwahanol. Os yw defnyddiwr arall mewn adran benodol, bydd y botwm yn dangos eicon clo arno ac ni fydd yn caniatáu ichi weld yr adran honno a gweithio arni.
Sut ydw i’n creu fy nghynllun gweithredu fy hun ar Becyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth Cymru?
Ar waelod pob adran y mae saeth Cynllun Gweithredu Llywodraethu Gwybodaeth. Ar ôl eu hagor, bydd yna deils wedi’u rhannu’n chwarteri a blaenoriaethau. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle i chi wneud nodiadau ar bethau rydych chi o’r farn y mae angen i chi eu gwella. Er enghraifft, gwneud nodiadau ar ddogfennau sydd gennych efallai bod angen eu hadolygu cyn eu lanlwytho. Gallwch gyrchu eich cynllun gweithredu o’r dangosfwrdd. Ar yr ochr chwith mae tab ‘Action Plan Report’. Bydd hyn yn agor eich adroddiad gan ddangos pob adran rydych chi wedi gwneud nodiadau arni. Gallwch hefyd ei lawrlwytho fel PDF. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio’r cynllun gweithredu gan ei fod yn eich helpu i reoli’r hyn rydych chi’n ei gyflwyno, yn helpu i wneud gwelliannau ar gyfer y dyfodol yn y sefydliad, ac yn helpu o ran atebolrwydd.
Oes ffordd o gyfeirio at gwestiynau penodol?
Yn dilyn adborth gan randdeiliaid, mae Tîm y Pecyn Cymorth wedi gweithredu cyfeirnodau ar gyfer pob cwestiwn ym Mhecyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth Cymru. Ar blatfform Caforb, byddwch nawr yn gallu gweld pob rhif cyfeirnod uwchben pob cwestiwn. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi bod ffurflen Pecyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth Cymru yn cynnwys pob sefydliad a chwestiwn mewn un strwythur. O ganlyniad, efallai na fydd rhai cwestiynau’n berthnasol i’ch math o sefydliad a byddant yn cael eu hepgor yn awtomatig, a all arwain at anghysondebau o ran rhifo’r cwestiynau.
Cyflwyno
A ellir cyflwyno Pecyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth Cymru fesul cam, neu a oes rhaid ei gyflwyno ar ôl iddo gael ei gwblhau’n llawn?
Gallwch gwblhau cymaint o’r ffurflen ag y dymunwch, pryd bynnag y dymunwch wneud hynny. Ar ôl mewngofnodi, cyn i chi lansio eich ffurflen, cyflwynir bar cynnydd sy’n dangos faint o’r hyn rydych chi’n ei gyflwyno sydd wedi’i gwblhau. Dim ond unwaith yn ystod y flwyddyn gyflwyno y gallwch gyflwyno’r pecyn cymorth.
Sut ydw i’n cyflwyno Pecyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth Cymru a phryd yw’r dyddiad cyflwyno?
Ar ôl ei gwblhau, cliciwch ar y botwm ‘submit’ glas ar ochr chwith y dudalen.
Rhaid cyflwyno Pecyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth Cymru erbyn 31 Mawrth 2026 fan bellaf. Noder, unwaith y bydd y dyddiad cau mynd a dod, ni allwn ailagor Pecyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth Cymru ar gyfer unrhyw gyflwyniadau hwyr.