Neidio i'r prif gynnwy

Dilysrwydd Data EDDS

 

Mae Safonau Dilysrwydd Data Set Ddata Adrannau Achosion Brys (EDDS) wedi bod ar waith ers 1 Ebrill 2010. Cafodd y rhain eu gorchymyn er mwyn sicrhau monitro perfformiad yn effeithiol o ran dilysrwydd data, un o gydrannau allweddol ansawdd data fel y disgrifir yn Ynglŷn ag Ansawdd Data. Mae'r safonau hyn yn cynnwys rhestr o ddangosyddion a thargedau cysylltiedig ar gyfer monitro cydymffurfiad yn fisol gan ddefnyddio adroddiadau Dilysrwydd Data EDDS.

Mae’r ddogfen hon yn disgrifio’r cefndir, y diben a’r rhesymeg tu ôl i bob un o’r safonau yn fanwl. Cyhoeddwyd y Llythyr Swyddogol cysylltiedig gan Lywodraeth Cymru i hysbysu'r gwasanaeth o’r camau y mae angen eu cymryd i weithredu’r newidiadau gofynnol.

Esbonnir y rheolau dilysu* a gymhwysir i'r eitemau data yn set ddata EDDS yn fanwl ar dudalennau gwe Gwasanaeth Cyfnewid Data GIG Cymru*.

Disgrifir unrhyw newidiadau i’r safonau hyn ar y dudalen Hanes Newidiadau.

 

* Ar gael i ddefnyddwyr GIG Cymru yn unig ar hyn o bryd

Sylwch, mae Safonau Ansawdd Data yn fanylebau technegol, ac maent wedi'u gorfodi i'r GIG a sefydliadau partner a chyflenwyr system yn Saesneg. Felly, dim ond yn Saesneg y gellir gweld dogfennau sy'n gysylltiedig â'r Safon Ansawdd Data hon.