Neidio i'r prif gynnwy

Cysondeb Data Cleifion Allanol

 

Mae Safonau Cysondeb Data Gweithgarwch Cleifion Allanol wedi bod ar waith ers mis Tachwedd 2013.  Cafodd y rhain eu gorchymyn er mwyn sicrhau monitro perfformiad yn effeithiol o ran cysondeb data, un o gydrannau allweddol ansawdd data, fel y disgrifir yn Ynglŷn ag Ansawdd Data. Mae’r safonau hyn yn cynnwys rhestr o ddangosyddion a thargedau cysylltiedig ar gyfer monitro cydymffurfiad yn fisol gan ddefnyddio adroddiadau Cysondeb Data Cleifion Allanol.

Mae’r ddogfen hon yn disgrifio’r cefndir, y diben a’r rhesymeg tu ôl i bob un o’r safonau yn fanwl. Cyhoeddwyd llythyr gan y Pennaeth Gwybodaeth yng Iechyd a Gofal Digidol Cymru u i hysbysu’r gwasanaeth o’r camau y mae angen eu cymryd i weithredu’r newidiadau gofynnol.

Esbonnir y rheolau dilysu* a gymhwysir i'r eitemau data yn set ddata Gweithgarwch Cleifion Allanol yn fanwl ar dudalennau gwe Gwasanaeth Cyfnewid Data GIG Cymru*.

Disgrifir unrhyw newidiadau i’r safonau hyn ar y dudalen Hanes Newidiadau.

 

Mae un o'r gwiriadau cysondeb yn cyfeirio at ryw'r claf.  Dangosir y metadata a ddefnyddir ar gyfer y gwiriad hwn yma.

Mae’r baneri rhyw yn cael eu cynnal a’u dosbarthu gan Wasanaeth Dosbarthiadau’r GIG yn ffeil metadata OPCS-4.  Adolygir a diweddarir y baneri hyn yn flynyddol gan y Ganolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HSCIC).

 

* Ar gael i ddefnyddwyr GIG Cymru yn unig ar hyn o bryd

Sylwch, mae Safonau Ansawdd Data yn fanylebau technegol, ac maent wedi'u gorfodi i'r GIG a sefydliadau partner a chyflenwyr system yn Saesneg. Felly, dim ond yn Saesneg y gellir gweld dogfennau sy'n gysylltiedig â'r Safon Ansawdd Data hon.