Neidio i'r prif gynnwy

Cysondeb Data APC

 

Mae Safonau Cysondeb Data Gofal Cleifion a Dderbynnir (APC) wedi bod ar waith ers 1 Ebrill 2009. Cafodd y rhain eu gorchymyn er mwyn sicrhau monitro perfformiad yn effeithiol o ran cysondeb data, un o gydrannau allweddol ansawdd data, fel y disgrifir yn Ynglŷn ag Ansawdd Data. Mae’r safonau hyn yn cynnwys rhestr o ddangosyddion a thargedau cysylltiedig ar gyfer monitro cydymffurfiad yn fisol gan ddefnyddio adroddiadau Cysondeb Data APC.

Mae’r ddogfen hon yn disgrifio’r cefndir, y diben a’r rhesymeg tu ôl i bob un o’r safonau yn fanwl. Cyhoeddwyd y Llythyr Gweinidogol cysylltiedig gan Lywodraeth Cymru i hysbysu’r gwasanaeth o’r camau y mae angen eu cymryd i weithredu’r newidiadau gofynnol.

Esbonnir y rheolau dilysu* a gymhwysir i'r eitemau data yn set ddata APC yn fanwl ar dudalennau gwe Gwasanaeth Cyfnewid Data GIG Cymru*.

Caiff unrhyw newidiadau i’r safonau hyn eu disgrifio ar y dudalen Hanes Newidiadau.

 

Mae rhai o’r gwiriadau cysondeb yn cyfeirio at ryw y claf.  Dangosir y metadata a ddefnyddir ar gyfer y gwiriadau hyn yma.

Caiff y baneri rhyw eu cynnal a’u dosbarthu gan Wasanaeth Dosbarthiadau’r GIG yn y ffeiliau metadata ICD-10/OPCS-4.  Caiff y baneri hyn eu hadolygu a’u diweddaru bob blwyddyn gan y Ganolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HSCIC).

 

* Ar gael i ddefnyddwyr GIG Cymru yn unig ar hyn o bryd

Sylwch, mae Safonau Ansawdd Data yn fanylebau technegol, ac maent wedi'u gorfodi i'r GIG a sefydliadau partner a chyflenwyr system yn Saesneg. Felly, dim ond yn Saesneg y gellir gweld dogfennau sy'n gysylltiedig â'r Safon Ansawdd Data hon.