Mae Mapiau Iechyd Cymru yn offeryn mapio rhyngweithiol sydd ar gael i'r cyhoedd ar gyfer archwilio data iechyd Cymru.
Mae'n mapio amrywiaeth o ddangosyddion iechyd o dan gategorïau eang fel canser, gweithdrefnau cyffredin a chlefyd cardiofasgwlaidd. Yn ogystal, mae’n dwyn ynghyd wahanol ffynonellau data i ddarparu darlun mwy cyflawn o iechyd gan gynnwys:
• derbyniadau i ysbytai
• marwolaethau
• genedigaethau
• poblogaeth
• imiwneiddiadau
Mae'n caniatáu i'r defnyddiwr archwilio data iechyd Cymru yn ôl ardal, i fapio tueddiadau dros amser ac i gymharu yn erbyn ffigurau lleol a chenedlaethol.