Croeso i wefan Dosbarthiadau Clinigol GIG Cymru.
Yma, byddwch yn gallu gweld ystod o wybodaeth am ddosbarthiadau clinigol (y cyfeirir atynt yn aml fel ‘codio clinigol’) a’u defnydd wrth ddisgrifio gweithgarwch gofal iechyd GIG Cymru.
Mae gwasanaeth Dosbarthiadau Clinigol GIG Cymru yn cael ei reoli gan y Tîm Dosbarthiadau Clinigol sy’n rhan o Gyfarwyddiaeth Strategaeth Ddigidol Iechyd a Gofal Digidol Cymru (or IGDC).
Mae'r tîm yn bennaf gyfrifol am gyflawni'r swyddogaethau canlynol:
Cefnogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisïau, safonau dosbarthu clinigol a chanllawiau ar gyfer gwasanaethau codio clinigol yn GIG Cymru.
Hyrwyddo cydweithio mewn perthynas â dosbarthiadau clinigol a data wedi'u codio'n glinigol ar draws GIG Cymru.
Gweithredu ar ran GIG Cymru ar fyrddau a fforymau dosbarthu clinigol arbenigol cenedlaethol (UK) perthnasol, megis UK Classifications Technical Advisory Committee a'r Bwrdd Arholi National Clinical Coding Qualification.
Cynnal a threfnu'r rhaglen hyfforddi codio clinigol genedlaethol ar ran GIG Cymru.
Adolygu a chynnal safonau dosbarthu clinigol cenedlaethol GIG Cymru, y gellir eu gweld trwy Eiriadur Safonau Dosbarthiadau Clinigol GIG Cymru.
Ymateb i ymholiadau gan wasanaeth codio clinigol Cymru a godwyd trwy'r ddesg gymorth genedlaethol.
Cynllunio a gweithredu rhaglen genedlaethol o archwiliad dosbarthiadau clinigol ar gyfer GIG Cymru.
Os hoffech gael unrhyw wybodaeth bellach am waith y tîm, gallwch gysylltu â'r tîm gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod:
E-bost:
Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Tŷ Glan-yr-Afon
21 Cowbridge Road East
Caerdydd
CF11 9AD