Mae Gwasanaeth Data Cyfeirio a Therminoleg Cymru yn cynnal data cyfeirio ar ran GIG Cymru. Mae'r cynnwys ei hun yn cael ei gynnal gan y tîm yn y Gyfarwyddiaeth Strategaeth Ddigidol Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC).
Mae’r gwasanaeth yn cynnal a dosbarthu Cyfundrefn Enwi Systematig ar gyfer termau Clinigol mewn Meddygaeth (SNOMED CT) ac yn cyflenwi systemau cod sy’n cydymffurfio â FHIR (lle y bo’n berthnasol), setiau gwerth a mapiau cysyniad i systemau clinigol ledled GIG Cymru mewn modd diogel, cydnerth a chyson.
Mae'n darparu ystorfa ganolog ar gyfer data cyfeirio, sydd ar gael mewn gwahanol ffurfiau ac mae’n sicrhau bod data cyfeirio ar gael yn ôl y galw, trwy amrywiaeth o ffyrdd. Defnyddir y data cyfeirio hyn at amrywiaeth o ddibenion gan gynnwys dilysu, deillio gwerthoedd newydd, cyflenwi codau a gydnabyddir yn genedlaethol mewn systemau TG clinigol a labelu allbynnau at ddibenion adrodd. Defnyddir y data cyfeirio hyn at ddibenion defnydd Sylfaenol (h.y. gofal cleifion uniongyrchol) a defnydd eilaidd.
Mae’r Tîm Data Cyfeirio yng IGDC yn cefnogi’r gwaith o gynnal codau cenedlaethol Cymru a ddefnyddir ledled y Deyrnas Unedig yn systemau’r GIG.
Mae’r Tîm yn gyfrifol am bob un o’r canlynol:
Cynnal a dosbarthu cod Cyfundrefn Enwi Systematig ar gyfer Termau Clinigol mewn Meddygaeth (SNOMED CT)
Cynnal holl godau safle sefydliadau Cymru;
Darparu ystorfa ganolog ar gyfer codau cenedlaethol;
Darparu'r data cyfeirio i gefnogi Gwasanaeth Cyfnewid Data GIG Cymru a chronfeydd data Cenedlaethol;
Cynnal y Codau SNOMED CT a data cyfeirio ar gyfer systemau cenedlaethol Cymru a ddefnyddir yn y Byrddau Iechyd;
Cynnal systemau Cod Cymru a setiau gwerth
Datblygu safonau cenedlaethol ochr yn ochr â'r Tîm Safonau Data cenedlaethol sy'n ymwneud â mathau newydd o ddata cyfeirio;
Darparu llinell gymorth i ateb pob ymholiad, cais am newidiadau
Rhoi arweiniad ar ddefnyddio SNOMED CT a data cyfeirio.
Pan rennir gwybodaeth glinigol rhwng sefydliadau, mae systemau cyfrifiadurol yn defnyddio codau i sicrhau bod triniaethau, sefydliadau a lleoliadau ysbytai yn cael eu disgrifio yn yr un ffordd bob amser. Rydym yn rhoi cefnogaeth i'r setiau data a ddefnyddir gan y gwahanol strwythurau codio trwy ein gwasanaeth data cyfeirio.
Ar gyfer pob ymholiad, cysylltwch â Gwasanaeth Data Cyfeirio a Therminoleg Cymru gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod:
E-bost:
SNOMED-CT SNOMED@wales.nhs.uk
Data Cyfeirio: dhcw.referencedatateam@wales.nhs.uk
Pwynt Gwasanaeth: nationalreferencedata@wales.nhs.uk
Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Tŷ Glan-yr-Afon,
21 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen
Caerdydd
CF11 9AD