Mae Safonau Dilysrwydd Data Gweithgarwch Cleifion Allanol wedi bod ar waith ers 1 Ebrill 2010. Cafodd y rhain eu gorchymyn er mwyn sicrhau monitro perfformiad yn effeithiol o ran dilysrwydd data, un o gydrannau allweddol ansawdd data, fel y disgrifir yn Ynglŷn ag Ansawdd Data. Mae’r safonau hyn yn cynnwys rhestr o ddangosyddion a thargedau cysylltiedig ar gyfer monitro cydymffurfiad yn fisol gan ddefnyddio adroddiadau Dilysrwydd Data Cleifion Allanol.
Mae’r ddogfen hon yn disgrifio’r cefndir, y diben a’r rhesymeg tu ôl i bob un o’r safonau yn fanwl. Cyhoeddwyd y Llythyr Swyddogol cysylltiedig gan Lywodraeth Cymru i hysbysu’r gwasanaeth o’r camau y mae angen eu cymryd i weithredu’r newidiadau gofynnol.
Esbonnir y rheolau dilysu * a gymhwysir i'r eitemau data yn set ddata Gweithgarwch Cleifion Allanol yn fanwl ar dudalennau gwe Gwasanaeth Cyfnewid Data GIG Cymru*.
Caiff unrhyw newidiadau i’r safonau hyn eu disgrifio ar y dudalen Hanes Newidiadau.
* Ar gael i ddefnyddwyr GIG Cymru yn unig ar hyn o bryd
Sylwch, mae Safonau Ansawdd Data yn fanylebau technegol, ac maent wedi'u gorfodi i'r GIG a sefydliadau partner a chyflenwyr system yn Saesneg. Felly, dim ond yn Saesneg y gellir gweld dogfennau sy'n gysylltiedig â'r Safon Ansawdd Data hon.