Mae safonau ansawdd data yn bodoli i sicrhau bod data a gyflwynir yn genedlaethol yn cael eu monitro a'u gwella fel y gellir eu defnyddio at ddefnydd eilaidd. Mae'r tîm Ansawdd Data yn cydlynu dyluniad a datblygiad y safonau ansawdd data hynny ac mae’n gweithio ar y cyd â noddwr/noddwyr perthnasol pob set ddata a'r gwasanaeth i sicrhau a chynnal cydymffurfiad â'r targedau penodedig.
Mae'r safonau ansawdd data canlynol yn orfodol yn GIG Cymru:
Safonau Dilysrwydd Data Gofal Cleifion a Dderbynnir (APC)
Safonau Cysondeb Data Gofal Cleifion a Dderbynnir (APC)
Safonau Dilysrwydd Data Gweithgarwch Cleifion Allanol
Safonau Cysondeb Data Gweithgarwch Cleifion Allanol
Safonau Dilysrwydd Data Set Ddata Adrannau Achosion Brys (EDDS)
Safonau Cysondeb Data Set Ddata Adrannau Achosion Brys (EDDS)
Safonau Dilysrwydd Data Atgyfeirio Cleifion Allanol (OPR)
Safonau Dilysrwydd Data Gofal Critigol
Safonau Cysondeb Data Gofal Critigol
Sylwch, mae'r Safonau Ansawdd Data canlynol yn fanylebau technegol, ac maent wedi'u gorfodi i'r GIG a sefydliadau partner a chyflenwyr system yn Saesneg. Felly, dim ond yn Saesneg y gellir gweld dogfennau sy'n gysylltiedig ag unrhyw Safonau Ansawdd Data.